Llanc 16 oed yn pledio'n euog i danio gwn ffug
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 16 oed o Gaerdydd wedi pledio'n euog i danio gwn ffug ac o ymosod gyda chymhelliad hiliol yn Llys Ieuenctid Caerdydd.
Roedd y llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn rhan o ddigwyddiad yn Redlands Road, Penarth brynhawn dydd Iau, 13 Awst.
Cafodd y bachgen ei gadw mewn dalfa ieuenctid tan 8 Medi. Dywedodd yr ynadon y bydden nhw'n ystyried "pob opsiwn" o safbwynt dedfryd, gan gynnwys carcharu.
Dywedodd cyfreithiwr y llanc, John Pennington, nad oedd y bachgen yn rhan o'r ymosodiad, ond ei fod yno pan ddigwyddodd hynny.
Dywedodd Mr Pennington wrth y Llys Ieuenctid fod tanio bwledi 'blanc' o'r gwn ffug wrth iddo ef ac eraill geisio gadael safle'r cythrwfl wedi bod "yn anghywir a thwp".
Daeth yr heddlu o hyd i dair cetrisen oedd wedi eu tanio o ffenest car oedd wedi ei thorri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2020