80 o ddiffoddwyr yn delio â thân mawr yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
SblotFfynhonnell y llun, Mercedes

Mae 80 o ddiffoddwyr wedi bod yn delio â thân mawr mewn garej teiars yng Nghaerdydd dros nos.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad ar stâd ddiwydiannol ar Heol Seawall yn ardal Sblot am tua 19:00 nos Sul.

Dywedodd y gwasanaeth bod y diffoddwyr wedi llwyddo i ddod â'r tân "dan reolaeth" erbyn bore Llun.

Ychwanegodd llefarydd y bydd ymchwiliad i achos y tân yn dechrau pan y bydd yn ddiogel gwneud hynny.