'Dyw gwyliau ddim yn wyliau heb fwyd da'
- Cyhoeddwyd
Yn ystod yr haf mae llawer o bobl yn mynd dramor ac efallai'n cael cyfle i ymweld â dinas Ewropeaidd, a rhan bwysig o'r profiad hwnnw yw blasu'r bwydydd lleol.
Un sydd wrth ei fodd yn teithio ledled Ewrop yw Dorian Morgan. Mae Dorian wedi teithio i bob prifddinas yn Ewrop ac mae'n mwynhau rhoi cynnig ar wahanol fwydydd.
Felly, os ydych chi'n meddwl mynd ar wyliau i rywle yn Ewrop ond ddim eisiau talu crocbris am fwyd da, dyma ambell awgrym gan Dorian.
'Dyw gwyliau ddim yn wyliau heb fwyd da.
Nid pawb fyddai'n cytuno â hynny. Ond i fi, mae unrhyw wyliau yn gorfod cael elfen o wledda. Bwyd y bydd rhywun yn ei gofio ymhell ar ôl ei fwyta. Blasu hufen iâ fior di latte am y tro cyntaf yn Siena, llosgi'ch ceg gyda chôn o sglodion poeth yn Gent neu brofi tafelli tenau o ham iberico yn toddi ar eich tafod yn Cadiz, mae gan gyfandir Ewrop rywbeth at ddant pawb.
Er ein bod ni'n ffodus erbyn hyn o gael bob math o gynhwysion yn ein siopau adre, mae popeth yn blasu'n well ar wyliau am ryw reswm.
Mewn cyfandir sy'n gymharol fach o ran maint, mae Ewrop yn llawn traddodiadau bwyd diddorol. A'r bwyd mewn un wlad yn hollol wahanol i'r wlad drws nesaf - o dwmplenni pierogi Gwlad Pwyl a bratwurst yr Almaen i strudel Awstria a gruyère Swistir.
Os yw bwyd ar frig eich agenda, dyma ambell awgrym am lefydd i ymweld â nhw.
Bologna
Buan iawn y bydd sgwrs am yr Eidal yn troi at fwyd. Ac mae'r rhanbarth hon o'r Eidal yn cael ei hystyried ymhlith y goreuon.
Mae Emilia Romagna yn cynnwys dinasoedd Bologna, Modena, Parma a Reggio Emilia, ac mae'r ardal yn browd iawn o'u cynnyrch. Parmigiano-Reggiano (parmesan), prosciutto (ham) ac aceto balsamico (finegr balsamig) i enwi ond rhai. Fe allwch chi ymweld â nifer o gynhyrchwyr y rhanbarth i ddysgu mwy am y broses.
Mae finegr balsamig, er enghraifft, yn cymryd o leiaf 12 mlynedd cyn iddo allu cael ei alw'n aceto balsamico tradizionale di Modena. A gallwch chi brofi caws parmigiano-reggiano o wahanol oedrannau i flasu'r gwahaniaeth rhwng caws 18 mis a 30 mis.
Mae dinas Bologna yn cael ei hadnabod fel La Dotta ('yr un dysgedig' fel lleoliad prifysgol hynaf Ewrop). La Grassa ('yr un tew' oherwydd y bwyd) a La Rossa ('yr un coch' oherwydd y toeon coch). A dyma gartref un o seigiau enwocaf y byd. Pryd sy'n cael ei fwyta mae'n siŵr yn y rhan fwyaf o'n cartrefi. Ragù alla bolognese neu i'r rhan fwyaf ohonom, spaghetti bolognese. Er wnewch chi ddim ffeindio spaghetti gyda'r saws cyfoethog chwaith - tagliatelle bob tro.
Peidiwch anghofio am ham enwog Bologna, mortadella, gyda'i ddarnau o fraster porc gwyn yn frith drwyddo. Mae'n anodd ei osgoi yn y ddinas, ac fe welwch chi ambell fersiwn llai traddodiadol yn cynnwys cnau pistachio.
Wrth symud tua gorllewin y rhanbarth, mae dinasoedd fel Modena (cartref Pavarotti a Ferrari) yn enwog am y tortellini in brodo, parseli bychain o basta wedi'u llenwi â chig a chaws yn nofio mewn cawl ffowlyn clir. Ac yna dinas Parma a'i ham neu prosciutto. Mae siopau salumeria y ddinas yn browd o'u cynnyrch lleol, ac fe welwch chi'r prosciutto yn hongian y tu ôl i'r cownter.
Donostia (San Sebastian)
Er bod bwytai a sîn bwyd arbennig yn Barcelona a Madrid, mae dinas Donostia yng Ngwlad y Basg yn cael ei hystyried yn aml fel prifddinas bwyd Sbaen. Bydd nifer yn ymweld â'r ardal yn unswydd ar gyfer y bwyd - o fwytai tair seren Michelin fel Mugaritz ac Arzak i lefydd llai sy'n gwerthu pintxos (tapas Gwlad y Basg). Er bod y pintxos yn edrych yn draddodiadol a syml, mae cogyddion yr ardal wastad yn arloesi gyda blasau ac yn gwthio ffiniau'r pintxos traddodiadol.
Un o brofiadau gorau'r ddinas yw crwydro o un bar pintxos i'r llall. Calamari fan hyn, iberico fan draw, asbaragws a'r gacen gaws enwog wrth gwrs. Bwyd bys a bawd yn aml iawn sy'n gweithio dda gyda'r gwin lleol. Ac awyrgylch cartrefol lle mae twristiaid ac ymwelwyr yn mwynhau'r cyfoeth o gynhwysion sydd yn yr ardal.
Pan welwch chi'r cownter am y tro cyntaf yn gwegian dan bwysau'r pintxos, y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yw 'pam bo' fi ddim wedi bod fan hyn cyn nawr?"
Gwlad Belg
Ar drip diweddar â Bruges a Gent yn ardal Fflandrys, fe wnes i sylweddoli bod bwyd Gwlad Belg yn agos iawn at fy nghalon. Waffl, sglodion, cwrw a siocled.
Dinasoedd prydferth cerdyn post yw'r ddwy ddinas sy'n hawdd teithio o'u cwmpas ar droed. Ac wrth i chi grwydro'r strydoedd a'r sgwariau, fe allwch chi fod yn sicr o un peth - byddwch chi'n arogli'r waffl sydd wedi bod ar eich meddwl drwy'r dydd ymhell cyn ei gweld hi. Y pen tost wedyn yw dewis beth i'w roi ar ei phen. Cawod o siwgr, afon o siocled wedi toddi neu lond perth o fefus a mafon.
At ddibenion ymchwil wrth gwrs, fe ges i'r waffl gyntaf yn blaen er mwyn gallu gwerthfawrogi'r blas a'r ail un yn boddi mewn siocled.
Yna ymlaen i chwilio am y sglodion perffaith. Ar ôl treulio chwarter canrif yn gweithio mewn bwyty tair seren Michelin, fe drodd y cogydd Sergio Herman ei olygon at sglodion. Ac yn ei bump o siopau sglods ar hyd a lled Gwlad Belg, mae'n creu 'casgliadau' o flasau newydd bob tymor (fel casgliad tŷ ffasiwn) i gyd-fynd â'r sglodion. Dwi'n dal i allu cofio blas y saws peanut Indonesaidd gyda blas leim.
Ac yn goron ar y cyfan, cewch flasu cannoedd o wahanol fathau o gwrw. Cwrw o wahanol flasau a chryfder. Yn ogystal â'i flasu, gallwch ddysgu am y cynhwysion, y broses fragu a pha fath o gwrw i'w ddewis gyda bwydydd gwahanol.
A beth am y siocledi? Mewn gwlad sydd mor enwog â'r Swistir am ei siocled, fe welwch chi dros 70 o siopau siocled yn Bruges. Ac wrth ymweld ag ambell un (doedd dim angen esgus), roedd yn debycach i siop emwaith gyda'r siocledi'n cael eu trin (ac yn edrych) fel gemau gwerthfawr.
Copenhagen
Nid y ddinas rataf yn y byd, ond mae'r sîn bwyd ym mhrifddinas Denmarc wedi denu twristiaid lu ers degawdau. Yn gartref i ddau fwyty sydd wedi ennill teitl Bwyty Gorau'r Byd - Noma a Geranium - am eu new nordic cuisine arloesol - fe gewch chi fwyd sy'n fwy gwerinol ac yn rhatach hefyd.
Os nad ydych chi wedi trio smørrebrød (brechdan heb ei phlygu), mae ambell gyfuniad i'w weld ar draws Denmarc. Bara rhyg tywyll gyda phenwaig (herring) wedi'i biclo, winwns a dil; ŵy a mayonnaise gyda berdys (shrimp), dil a lemwn; cig eidion rhost, winwns a rhuddygl (horseradish) neu gaws glas, afal a bacwn. Mae Restaurant Schønnemann, er enghraifft, wedi bod yn gweini'r brechdanau poblogaidd ers 1877. Fel Sweden, mae peli cig hefyd yn boblogaidd iawn (cig llo a phorc).
Mae cynaliadwyedd yn elfen bwysig i ddinas Copenhagen, ac mae'r diwydiant bwyd lleol yn credu'n gryf mewn cynnyrch organig, cnydau sydd wedi'u tyfu'n lleol a lleihau gwastraff bwyd.
Er nad yw'r danish pastry yn dod o Ddenmarc, maen nhw'n cael eu galw'n wienerbrød neu fara Vienna yn Nenmarc oherwydd mai pobyddion o Awstria wnaeth eu cynhychu am y tro cyntaf yn y wlad yn y 1840au. Ta waeth, fe fydd y kanelsnegle neu'r frøsnapper yn siŵr o dynnu dŵr o'ch dannedd.
München (Munich)
Wrth feddwl am brifddinas Bafaria yn yr Almaen, mae'n hawdd meddwl am yr ystrydebau. Y selsig, y neuaddau cwrw a'r porc a thwmplenni. Ar ymweliad â'r ddinas rai misoedd yn ôl, y peth cyntaf ro'n i eisiau ei drio oedd y selsig a'r cwrw! A bois bach, ma 'na ddewis anhygoel o'r ddau.
Yn eu plith, y weisswurst, sef selsig gwyn wedi'u gwneud á chig llo a braster porc gyda chroen lemwn, persli a chardamom. Yn ôl traddodiad, dylid bwyta'r selsig yma cyn i glychau'r eglwys daro hanner dydd! Neu beth am y bockwurst? A'r pretzels sy'n britho stondinau ar hyd a lled y ddinas? Mae hanes y pretzel yn dyddio nôl i'r Oesoedd Canol ac yn cael eu gweini'n aml gyda phrif gwrs.
Mae hanes bragu yn yr ardal hon bron cyn hyned â'r ddinas ei hun. Yn gartref i'r Oktoberfest enwog sy'n denu torfeydd i'r Theresienwiese am 18 diwrnod, mae dros bum miliwn litr o gwrw yn iro llwnc y miliynau o ymwelwyr. Ond gallwch ymweld â bierhalle (neuadd gwrw) ar unrhyw adeg o'r flwyddyn i roi cynnig ar un o'r gwydrau stein mawr (sy'n dal dau beint) sydd bron yn rhy drwm i'w godi.
Hefyd o ddiddordeb: