Tamaid o Iwerddon: Crúibíní
- Cyhoeddwyd
Pwy bynnag fydd yn fuddugol yn y gêm rhwng Iwerddon a Chymru ddydd Sadwrn, bydd dagrau o lawenydd a dagrau o alar yng nghartref Ryland Teifi a'i deulu.
Yn wreiddiol o Ffostrasol, mae'r actor a'r canwr wedi ymgartrefu yn An Rinn yn ne ddwyrain Iwerddon gyda'i wraig, sy'n Wyddeles, a'u tair merch a gafodd eu geni yng Nghymru ond eu magu ar yr Ynys Werdd.
Ai rhywbeth Gwyddelig fydd ar y fwydlen wrth wylio tybed?
"Slawer dydd, mi fyddai Crubeens (Crúibíní mewn Gwyddeleg) yn boblogaidd yn enwedig mewn tafarndai," eglurai Ryland.
"Cyn i greision ddod yn boblogaidd gyda peint, doedd dim byd yn maeddu Crubeens neu Pig's Trotters. Rhywbeth tebyg i pork scratchings am wn i, ond yn lot fwy naturiol. Traed y mochyn druan a rhai yn dweud am ryw reswm fod y traed blaen yn felysach na'r rhai ôl.
"Dyma fwyd delfrydol ar gyfer gêm rygbi yn enwedig wrth wylio mewn tafarn. Nid y bwyd mwya' iach ond nid dyna'r nôd ar ddiwrnod rhyngwladol!
"'Wy'n cofio fy ngwraig Róisín yn sôn fod ei thad weithiau yn dod â rhai gartre ar ôl noson o ganu mewn tafarn a ry' chi'n gweld sôn amdanynt mewn caneuon gwerin fel The Galway Races, cân boblogaidd gan The Clancy Brothers;
And a big crubeen for threepence
To be pickin' while you're able
"Swnio'n ddelfrydol ar gyfer gêm Iwerddon a Chymru."
Gobeithio fydd hi ddim yn draed moch ar y crysau cochion, wir...
Crúibíní
Comhábhair
6 chrúibín
Oinniún mór amháin
Cairéad mór amháin
Duilleog labhrais
5 nó 6 chraobhóg peirsile
Craobhóg mhór tíme
Roinnt piobarchaor
Dóthain uisce chun an fheoil a chlúdach go maith
NÍL SALANN AG TEASTÁIL
Treoracha
Cuir na comhábhair ar fad le chéile i bpota mór agus clúdaigh le huisce fuar iad
Déan an t-uisce a fhiuchadh agus bearr an cúr salach den bharr
Coinnigh ort á fhiuchadh go réidh ar feadh 2 nó 3 huaire go dtí go mbeidh an fheoil bog
Is féidir leat na crúibíní a ithe agus iad te nó fuar, in éineacht le beagáinín mustaird más mian leat
Crúibíní
(Rysáit gan Darina Allen)
Cynhwysion
6 troed mochyn
1 nionyn mawr
1 moronen fawr
1 deilen llawryf (bay)
5 neu 6 coesyn persli
Sbrigyn o teim
Ychydig o rawn pupur (peppercorns)
Digon o ddŵr oer i'w gorchuddio
DIM HALEN
Dull
Rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban fawr a'u gorchuddio â digon o ddŵr oer
Dewch â'r dŵr i'r berw a chodi'r saim
Berwch yn araf am 2-3 awr neu nes fod y cig yn feddal a brau
Gallwch eu bwyta yn gynnes neu'n oer, gydag ychydig o fwstard os hoffech chi.
Hefyd o ddiddordeb: