Cwmni lager am flasu llwyddiant

  • Cyhoeddwyd
Aelodau o gwmni newydd Lager Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dynion busnes lleol sydd y tu cefn i'r fenter

Bydd cwrw Wrexham Lager ar gael i gwsmeriaid yr ardal am y tro cyntaf ers y flwyddyn 2000.

Tri dyn busnes lleol, John Roberts, Vaughan Roberts a Mark Roberts sydd tu cefn i'r fenter i sefydlu bragdy bach newydd - gyda chymorth cyn reolwr Wrexham Lager, Ian Dale.

"Rydym yn nerfus. Mae Wrexham Lager yn eicon Cymreig," meddai Mark Roberts.

"Rydym am i bobl ei yfed a bod yn falch ohono."

Sefydlwyd cwmni Wrexham Lager ym 1881 gan ddau ddyn o'r Almaen.

Mae gan yr ardal draddodiad o gynhyrchu cwrw.

Ar un amser roedd 19 o fragdai yn y dref ond dyma'r unig un oedd yn cynhyrchu lager.

Fe gynyddodd poblogrwydd lager yn yr ardal yn y 1920au ar ôl i'r cwmni brynu tafarn yn y dre.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd yr hen fragdy yn 2000

Wedi'r Ail Ryfel Byd cafodd cwmni Lager Wrecsam ei brynu gan Ind Coope â unodd, yn ddiweddarach, gyda dau fragdy arall i ffurfio cwmni Allied Breweries.

Fe gaeodd y bragdy yn Wrecsam yn 2000.

Dywedodd Mark Roberts: "Gobeithio bydd yn dod â rhai swyddi yn ôl i'r dref - ac ychydig o fywyd."

Mae'r lager yn cael ei lansio yn nhafarn y Buck House ym Mangor Is y Coed ar ddydd Sadwrn 29 Hydref.