Tony Bianchi yn ennill cystadleuaeth Stori Fer

  • Cyhoeddwyd
Cafodd Mr Bianchi ei eni yn North Shield, Northumberland
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ei eni yn North Shields, Northumberland

Enillydd Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin a BBC Radio Cymru 2013 yw Tony Bianchi gyda'i stori 'Twix'.

Cyhoeddwyd canlyniad y gystadleuaeth ar raglen Stiwdio ac wedi'r cyhoeddiad cafwyd darlleniad o'r stori fuddugol gan yr actor Dewi Rhys Williams.

Daeth 62 stori i law yn y gystadleuaeth.

Dywedodd yr awdur Mihangel Morgan: "Bachodd y stori hon fy sylw o'r darlleniad cyntaf ac mae pob darlleniad ers hynny wedi datguddio mwy o'i rhinweddau.

'Ar y brig'

"Mor falch oeddwn i i glywed bod fy nghydfeirnaid i gyd yn annibynnol wedi rhoi 'Twix' ar y brig neu ymhlith y goreuon uchaf fel na fu unrhyw anghytundeb rhyngon ni."

Mae modd darllen y stori yn Taliesin 148, Rhifyn y Gwanwyn (thema Y Môr) sy'n cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth.

Cafodd Tony ei eni yn North Shields, Northumberland, lle aeth i ysgolion pabyddol a dilyn y tîm pêl-droed lleol.

Aeth i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan lle astudiodd waith Samuel Beckett a dysgu'r Gymraeg.

Bu'n byw yng Nghei Conna, Sir y Fflint, ac yn Aberystwyth cyn ymgartrefu yn y brifddinas.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Sir Fflint 2007.