'Hurt bod trethi busnes Aberystwyth yn uwch na Chaerdydd'
- Cyhoeddwyd
Mae trethi busnes yn Aberystwyth yn "orffwyll o uchel a dyw e ddim yn syndod bod nifer o siopau'n wag", yn ôl maer y dref.
Dywed Maldwyn Pryse ei fod wedi ymchwilio i'r mater yn sgil cwynion niferus gan fusnesau am y gost.
Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod wedi darganfod "fod pris treth y metr sgwâr yn Aberystwyth yn uwch nag un o'r trefi eraill - ac hyd yn oed yn uwch nag ar Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd".
"Mae pris y fetr sgwâr yn Aberystwyth bron i deirgwaith yn uwch na Ffordd y Brenin yn Abertawe ac mae poblogaeth Aber a'r footfall yma yn llawer llai na Chaerdydd ac Abertawe. Mae'n hurt."
Gan ddefnyddio gwefan sy'n dod o hyd i brisiad ardrethi busnes fe ganfu Mr Pryse bod treth parth A cyn-siop Clarks ar y stryd fawr yn Aberystwyth yn £525 y metr sgwâr.
£460 yw treth gyfatebol siop Bubbleology ar Heol Eglwys Fair Caerdydd ac mae treth gyfatebol bwyty ar Ffordd y Brenin yn Abertawe yn £180.
Mae siopau yn cael eu rhannu i barthau - Parth A sef blaen y siop, Parth B - canol y siop a Pharth C - cefn y siop.
Mae ardrethi busnes yn cael eu cyfrifo trwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eiddo a'i luosogi gyda 'lluosydd' (neu'r 'tâl yn y bunt') cyfredol. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 y lluosydd yw 0.562.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sydd yn prisio eiddo ac yn pennu'r Gwerth Ardrethol.
"Roedd y wybodaeth ddaeth i law yn dangos cymaint yw maint y broblem yma'n Aber, ac wrth gwrs ryw 14,600 sy'n byw yma lle mae dros 362,000 yn byw yng Nghaerdydd a dros 238,000 yn Abertawe," meddai Mr Pryse.
"Gwn fod y dull o weithio allan y gost yn gymhleth a bod y rhent a godir hefyd yn cyfrannu, ond mae gwir angen i ni edrych am ffyrdd o geisio datrys y broblem er lles dyfodol Aberystwyth."
Mae'r sefyllfa yn hollol annheg, medd Ceredig Davies, sy'n gyn-gynghorydd sir a thref ac yn gyn-berchennog siop ar y stryd fawr.
"Yr hyn rwy'n credu sy' wedi digwydd yw bod nifer o gwmnïau mawr yn arfer rhentu adeiladau ar y stryd fawr - mi oedd yna siopau Evans, Burton a Dorothy Perkins, er enghraifft, ac felly mae'r Swyddfa Brisio yn meddwl bod stryd fawr Aberystwyth yn le proffidiol.
"Doedd y cwmnïau mawr rhyngwladol 'ma ddim yn poeni am gost y dreth.
"Mae'r siopau mawr bellach wedi gadael y stryd fawr ond mae'r trethi busnes dal yn uchel.
"Mae maint y siopau yn fawr a gan bod y dreth yn cael ei gosod fesul metr sgwâr mae'r gost yn ofnadwy o uchel.
"Does yna ddim gobaith i unrhyw unigolyn - y genhedlaeth ifanc yn enwedig - i ddechrau busnes ar stryd fawr Aber bellach ac mae hynny'n dorcalonnus."
Yn ddiweddar mae Elin Jones, yr aelod lleol yn y Senedd a Cefin Campbell, AS Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi ysgrifennu at Asiantaeth y Swyddfa Brisio i fynegi eu pryderon.
Yn yr ateb nodwyd bod gwerth ardrethol unrhyw eiddo annomestig (busnes) yn cyfateb i'r rhent blynyddol y byddai eiddo’n ei gael pe bai’n cael ei osod ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol - yn yr achos yma 1 Ebrill 2021.
Fe fydd y gwerth ardrethol nesaf yn cael ei gyhoeddi'n 2026 a bydd yn seiliedig ar rent Ebrill 2024.
Nodwyd hefyd bod modd "i etholwyr na sy'n hapus herio y prisiad presennol gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio a Herio, ac yn y pen draw bod modd cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Prisio annibynnol".
"Mae'r ateb yn annigonol," medd Maldwyn Pryse, "a dydyn nhw ddim yn deall mai ein pryder ni fel cyngor tref yw bod siopau yn diflannu o'n stryd fawr.
"Does gennym ni fel cyngor ddim eiddo busnes ar y stryd fawr ac allwn ni ddim herio'n swyddogol drwy'r gwasanaeth Gwirio a Herio."
'Angen herio er lles Aberystwyth'
Dywedodd Elin Jones AS “Mae wedi bod yn syndod i ddeall bod gymaint o wahaniaeth rhwng trethi busnes stryd fawr Aberystwyth o’u cymharu â rhai o brif strydoedd mannau llawer mwy poblog fel dinasoedd Caerdydd ac Abertawe.
"Mae’r Swyddfa Brisio yn nodi taw rhent yw un o brif ffactorau dylanwadol ar y dreth fusnes, ond mae hefyd yn anhygoel i feddwl fod rhent prif stryd Aberystwyth gymaint yn fwy na phrif stryd yng Nghaerdydd.
"Mae’r ffaith fod trethi busnes mor uchel yn Aberystwyth yn cael effaith amlwg ar stryd fawr y dref, sydd yn ei dro yn effeithio ar yr economi leol.
"Mae angen herio hyn er lles dyfodol canol tref Aberystwyth.”
Cynghorau sir sy'n casglu trethi busnes ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r swm terfynol yn cael ei roi mewn "pwll canolog", ac yna’n cael ei ddosbarthu ar draws Cymru er mwyn helpu i dalu am wasanaethau llywodraeth leol a gwasanaeth yr heddlu.
Wrth ymateb i'r sefyllfa yma dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu busnesau yng Nghymru ac yn darparu mwy na £130m o gymorth ardrethi annomestig ychwanegol eleni.
"Daw hyn ar ben ein rhyddhad parhaol i fusnesau gwerth £250m bob blwyddyn."
Mae cais wedi ei roi i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.
"Rwy'n gobeithio y bydd datrysiad buan," ychwanegodd Maldwyn Pryse.
"Dyw'r sefyllfa fel y mae ddim yn gwneud dim synnwyr a rhaid i ni gefnogi ein busnesau ar ein stryd fawr.
"Yn ddiweddar mae un neu ddwy o siopau wedi dod i'r stryd fawr. Ry'n am eu cadw nhw yma.
"Er bod ein dylanwad fel cyngor tref yn fach rydym am geisio cydweithio efo eraill i hybu dyfodol ein stryd fawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth