Y carnyx yn creu naws cyn gêm ac ar faes y gad
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Roedd gan gefnogwyr pêl-droed Cymru digon i ddathlu neithiwr wedi i’r tîm ennill 4-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Gyda’r Celtiaid yn wynebu’r Llychlynwyr roedd un olygfa arbennig iawn i’w gweld cyn canu’r ddwy anthem.
Roedd un o gerddorion y Barry Horns wedi chwarae corn Celtaidd anferth, sef y carnyx, er mwyn dathlu'r traddodiad Celtaidd. Dyma’r tro cyntaf i’r offeryn yma gael ei chwarae cyn i Gymru chwarae pêl-droed.
Mae’r carnyx yn 12 troedfedd o hyd, felly yn dipyn o her i unrhyw gerddor i chwarae.
Yn y gorffennol roedd rhyfelwyr Celtaidd yn defnyddio'r carnyx i greu naws wrth ymladd mewn rhyfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid.

Llewelyn Hopwood o Brifysgol Caerdydd
Roedd Llewelyn Hopwood, sy’n arbenigwr ar yr ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn siarad am y carnyx ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
Dywedodd: “Yn sicr mae gyda ni dipyn o enghreifftiau o’r carnyx. Mae dros 20 ohonyn nhw wedi goroesi. Offeryn tal, siâp S rhyfedd (yw’r carnyx) yn codi uwchben y dorf.
“Offeryn pres yw e. Beth sy’n ddiddorol yw bod hi’n Geltaidd. Mae’r enw yn rhoi cliw i ni - enw Groeg sydd gyda ni ond hefyd yn deillio efallai o’r iaith Galateg sef iaith Geltaidd Twrci.”

Roedd y carnyx yn offeryn mwy cyffredin yng nghanolbarth Ewrop, lle roedd y Celtiaid cynnar yn byw.
Mae un o’r enghreifftiau gorau o’r carnyx wedi ei darganfod yng ngogledd-ddwyrain Yr Alban, sef y Deskford carnyx. Fersiwn o’r carnyx yna oedd ar y cae pêl-droed neithiwr. Mae’n offeryn tal gyda phen baedd ar y blaen.
Mae’r carnyx yn offeryn hen iawn, meddai Llewelyn: “Maen nhw wedi cael eu defnyddio o’r 3ydd ganrif cyn Crist i’r 3ydd ganrif ôl Crist.
“Mae disgrifiadau ohonynt yn dangos nhw fel rhan o’r gist o arfau oedd wedi cael eu ffeindio ar faes y gad.”
Mae disgrifiadau hanesyddol yn dweud fod y carnyx yn creu naws arbennig yn ystod rhyfel ond mae Llywelyn yn credu byddai'r naws yn wahanol iawn cyn gêm bêl-droed: “Mae clywed y sŵn hwn ar ôl bod yn dawnsio’n wyllt i Zombie Nation yn brofiad hollol wahanol i glywed e ar gae!
“Mae’n arwyddocaol mai dyma’r tro cyntaf i’r carnyx gael ei ddefnyddio mewn gêm ac yn erbyn Gwlad yr Iâ, sef tîm sydd gyda sain nodedig sef thunderclap.”

Harry Wilson yn dathlu sgorio pedwaredd gôl Cymru
Geirfa
Cefnogwyr / supporters
Dathlu / celebrate
Gwlad yr Iâ / Iceland
Llychlynwyr / Vikings
Golygfa / scene
Cerddorion / musicians
Corn / horn
Anferth / massive
Traddodiad / tradition
Offeryn / instrument
Troedfedd / foot
Her / challenge
Gorffennol / past
Rhyfelwyr / warriors
Naws / atmosphere
Ymladd / fight
Rhufeiniaid / Romans
Arbenigwr / specialist
Prifysgol / University
Enghreifftiau / examples
Goroesi / survive
Torf / crowd
Pres / brass
Deillio / stem from
Canolbarth / mid
Cynnar / early
Darganfod / discover
Baedd / boar
Cist / chest
Arfau / weapons
Ffeindio / discover
Maes y gad / battlefield
Arwyddocaol / significant
Nodedig / distinctive
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024