Y gŵr a greodd ei 'arian Cymreig' ei hun

Arian papur gan Prif Trysorfa Cymru LimitedFfynhonnell y llun, Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig/The Trustees of the British Museum
Disgrifiad o’r llun,

Arian papur gan Prif Trysorfa Cymru Limited

  • Cyhoeddwyd

Cymru yw un o’r unig wledydd sydd yn cynhyrchu aur ond ddim ei harian papur ei hun.

Yn 1969, penderfynodd gŵr o Landudno, Richard Williams drio newid hyn, drwy ryddhau ei arian ei hun i bobl ei wlad.

Mae Peter Symes yn awdur sydd yn ymddiddori mewn arian cyfred (currency) o bedwar ban byd ac yma mae'n adrodd hanes y gŵr a geisiodd herio awdurdod y Llywodraeth a'r system fancio:

Banc Cymru

Yn 1968, roedd yna ddadl yng Nghymru ynglŷn â’r posibilrwydd o sefydlu Banc Cymreig a fyddai’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo masnach a diwydiant o fewn y wlad.

Wrth i’r dadlau barhau o’i gwmpas, ysgrifennodd Mr Richard Williams – gŵr oedd wedi bod yn y busnes bancio er blynyddoedd – at Brif Weinidog Prydain i ofyn am sicrhad mai dim ond cwmni oedd â lles Cymru mewn golwg â fyddai’n cael defnyddio’r enw ‘Bank of Wales’.

Cafodd ymateb gan y Bwrdd Masnach yn nodi: “You may be rest assured that no company would be registered with the name of Bank of Wales Ltd, unless the Board considered this fully justified.”

Doedd Richard Williams ddim yn rhy hoff o’r llywodraeth fiwrocrataidd bryd hynny, ac mewn ymateb i’r llythyr, penderfynodd gofrestru cwmni gyda’r enw Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig. Cafodd y cwmni ei gofrestru, gan fod y Bwrdd Masnach (Board of Trade), mae’n debyg, ddim wedi deall beth oedd ystyr yr enw Cymraeg ar y cwmni.

Ysgrifennodd Mr Williams at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan nodi nad oedd rhaid i’r dadlau dros sefydlu Banc Cymru barhau, oherwydd ei fod wedi cymryd y camau angenrheidiol i sefydlu ei gwmni ei hun, a fyddai er budd Cymru.

Prif Trysorfa Cymru... yn Llandudno

Y cam naturiol nesaf oedd i gynhyrchu rhyw fath o arian cyfred.

O fewn ychydig fisoedd, roedd Prif Trysorfa Cymru Cyf. yn rhyddhau archebion talu (payment orders) a oedd yn edrych ac yn gweithio’n debyg i sieciau. Roedd inc magnetig ar waelod y papurau, a oedd yn golygu eu bod yn ddilys; oherwydd profiad Mr Williams yn y diwydiant cyfrifiaduro, roedd yn gwybod fod hyn yn angenrheidiol er mwyn cael eu prosesu’n effeithlon.

Cysylltodd y Bwrdd Masnach; roedden nhw o’r diwedd wedi sylweddoli beth oedd cyfieithiad cywir Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig... Roedd y llythyr yn holi beth oedd cynlluniau Mr Williams ac os fyddai’n fodlon i newid enw’r cwmni.

Ymateb Richard Williams oedd nad oedd yn awyddus i newid yr enw, ac ei fod yn bwriadu, yn fuan iawn, i ryddhau mwy o nodau arian. Fe greodd y papurau yma yn syth ar ei deipiadur – 10/-, £1, £5 a £10 – gydag ysgrifen Cymraeg yn nodi bwriad Prif Trysorfa Cymru i dalu’r swm o arian ar gais.

Er mwyn bod yn gyfreithlon, roedd rhaid cael stamp treth dwy geiniog gan Fwrdd y Cyllid Gwladol (Board of Inland Revenue). Cafodd hyn ei wneud heb ffws o gwbl.

Ar y papurau cyntaf roedd testun dwyieithog yn datgan: ‘Y mae Prif Trysorfa Cymru Limited yn gaddo talu y cludwr pan yr hawlio y swm o X’. Roedden nhw wedi eu llofnodi gan R. Hugh Williams ac wedi eu dyddio 17 Mawrth 1969. Cawson nhw eu hargraffu yng Nghraig y Don, Llandudno.

Disgrifiad,

Richard Williams yn siarad am ei fenter ar y rhaglen Heddiw ym mis Chwefror 1969

Erbyn hyn, roedd y cyfryngau wedi cael gafael ar y stori, ac roedd galw mawr am y papurau, felly aeth ati i anfon mwy at Fwrdd y Cyllid Gwladol i gael y stamp swyddogol.

Fodd bynnag, roedd y cyhoeddusrwydd yn golygu fod mwy o ofal wedi cael ei wneud wrth archwilio’r papurau yma. Cafodd Richard Williams wybod fod y Ddeddf Papurau Banc 1826 yn atal nodau am swm llai na £5 rhag cael eu stampio – a bod y rhai a dderbyniodd stamp yn flaenorol wedi eu gwneud mewn camgymeriad.

Wnaeth hyn ddim lleihau ei frwdfrydedd, ac anfonodd nodau £5 a £10 i gael eu stampio, a cafodd y papurau am symiau llai, oedd heb gael y stamp swyddogol, eu ‘Canslo’ a’u gwerthu fel cofroddion.

Cwmni y Ddafad Ddu

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Powysland
Disgrifiad o’r llun,

Arian wedi ei ryddhau gan Gwmni y Ddafad Ddu Gymreig Cyfyngedig

Ar 26 Mawrth 1969, cafodd Mr Williams ei gynghori y byddai’n rhaid iddo newid enw ei gwmni gan ei fod yn gamarweiniol. Cyn newid yr enw, argraffodd un papur olaf, a hynny am £1,000,000.

Penderfynodd ar 'Cwmni y Ddafad Ddu Gymreig Cyfyngedig'; enw roedd y Bwrdd Masnach yn hapus efo fo. Mae’n rhaid nad oedd y swyddogion yn ymwybodol mai dyma oedd enw’r banc Cymreig diwethaf, pan ryddhaodd Banc Aberystwyth a Thregaron nodau gyda lluniau defaid duon arnyn nhw; hanes oedd yn gyfarwydd i Gymry ond nid i Saeson.

Ar y nodau newydd, ynghyd â lluniau defaid du, roedd y geiriad ‘Gynt Prif Trysorfa Cymru Cyfyngedig’.

Dros y misoedd nesaf, cafodd nodau a gwahanol ddarluniau arnyn nhw eu rhyddhau, fel y casgliad cestyll, gyda lluniau rhai o’n cestyll gorau – Talacharn, Conwy, Harlech a Chaerdydd – a’r nodau â phontydd arnyn nhw: Pont Britannia a Phont Borth.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig/The Trustees of the British Museum
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dyluniad y nodau gwreiddiol yn syml, gyda’r wybodaeth angenrheidiol un ochr a llun lliw o Gastell Caernarfon ar yr ochr arall, am y rheswm fod gan Richard Williams y llun yma gan A. Netherwood ar wal yn ei dŷ, ac roedd yn hoff ohono

Ar ôl tua wyth mis, ac ar ôl stampio rhyw 100,000 o nodau Richard Williams, cysylltodd Bwrdd y Cyllid Gwladol i ddweud na ddylan nhw fod wedi stampio dim o gwbl. Er hynny, cafodd 10,000 nod arall eu stampio yn Swyddfa Stampio Manceinion ddiwedd Tachwedd 1969.

Roedd y Bwrdd y Cyllid Gwladol yn ceisio meddwl am bob ffordd posib o roi diwedd ar brosiect arian Richard Williams. Ym mis Mawrth 1970, cafodd y defnydd o arfbais Tywysog Cymru ar yr arian i gwestiynu. Ymateb Mr Williams oedd i addasu’r logo ychydig.

Dros y misoedd nesaf, parhaodd Mr Williams i ryddhau mwy o nodau arian, fel cofroddon pan gafodd Bont Britannia ei ddifrodi gan dân, a phapurau arbennig, gyda lluniau o Gymry nodedig arnyn nhw i nodi’r system arian degol newydd, ddechrau Chwefror 1971.

Embaras a llwyddiant

Yn 1971, daeth y Llywodraeth i ben â’r dreth stamp oedd wedi bod mewn lle ers 118 o flynyddoedd. Roedd menter Richard Williams wedi codi embaras i'r sefydliad, ac felly roedd o'n teimlo ei fod wedi llwyddo.

A dyna ni ddiwedd ar ymgais rhyddhau papur arian Richard Williams... bron. Yn 1985, rhyddhaodd nodau £1 a £5 o dan yr enw Chipping Sodbury Treasury. Roedd hyn er mwyn helpu trigolion y dref fechan yn Swydd Gaerloyw a oedd wedi siomi fod y papur £1 wedi diflannu, a darn arian wedi cymryd ei le yn 1983. Dywedodd iddo wneud hyn am ei fod yn ‘eithaf hoffi enw’r lle’.

Bu farw Richard Williams yn fethdalwr yn 1988.

Mae’r nodau unigryw yn parhau i fod yn boblogaidd ymhlith casglwyr arian, sydd yn awyddus i’w hychwanegu i’w casgliadau.

Gwybodaeth ychwanegol o Money Galore: The Story of the Welsh Pound gan Ivor Wynne Jones

Pynciau cysylltiedig