Ymchwiliad i dân ar safle busnes carafanau ger Pwllheli

Does dim cadarnhad hyd yn hyn faint o gerbydau gafodd ddifrod yn y tân
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn ceisio cadarnhau achos tân sydd wedi achosi difrod ar safle busnes carafanau a faniau gwyliau yng Ngwynedd.
Fe gafodd yr gwasanaeth tân eu galw i'r safle ger Pwllheli tua 17:30 brynhawn Sadwrn.
Fe gafodd 10 injan eu hanfon i'r safle ac roedd yna gyngor i drigolion lleol gau eu ffenestri a drysau rhag y mwg.
Bu'n rhaid cau'r A497 am gyfnod rhwng Parc Bwyd Dwyfor, Llanystumdwy ac Afon Wen.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Sul bod y ffordd wedi ailagor "ond mae swyddogion yn dal ar y safle wrth i'r ymchwiliad i achos y tân barhau".