Barry Town yn gadael y gynghrair
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol Clwb Pêl-droed Barry Town yn y fantol wedi i'r perchennog Stuart Lovering eu tynnu allan o'r gynghrair Gymreig gyda dwy gêm o'r tymor yn weddill.
Mae hyn yn dilyn cyfnod hir o anghydfod rhwng y perchennog a'r grŵp sydd yn rhedeg y clwb, pwyllgor y cefnogwyr.
Roedd y clwb i fod i groesawu Ton Pentre nos Fawrth, ond cafodd y gêm ei chanslo ar fyr rybudd.
Ond mae disgwyl i'r clwb deithio i Don Pentre ar gyfer gêm ddydd Sadwrn.
Dyw Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim eto wedi cadarnhau'r ffaith fod y clwb wedi gadael y gynghrair.
Roedd Mr Lovering eisoes wedi tynnu'r tîm dan-19 o'u cynghrair nhw.
Dywedodd rheolwr Barry Town, Gavin Chesterfield, ar Twitter ei fod "yn anhygoel bod un dyn yn gallu stopio pêl-droed ieuenctid mas o sbeit".
'Ffraeo parhaus'
Mae Lovering wedi bod yn berchen ar y clwb ers Rhagfyr 2003, ac mae'r clwb wedi dioddef cyfnod cythryblus ers hynny.
Collon nhw eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2004 ac mae ffraeo parhaus wedi bod yn digwydd rhwng cefnogwyr y clwb a'r perchennog ers hynny.
Roedd Barry Town wedi curo'r cynghrair saith gwaith ers iddi gael ei chreu yn 1992, ond nid yw'r clwb wedi ennill unrhyw beth ers i Mr Lovering ei brynu yn 2003.
Gorfodwyd y clwb i adael eu stadiwm Jenner Park am gyfnod yn 2005 oherwydd trafferthion ariannol - roeddent wedi bod yn chwarae yno ers 1912.
Maent yn ôl yn chwarae yno erbyn hyn, er nad yw'n glir a fydd y clwb - oedd yn arfer chwarae gemau Ewropeaidd yn rheolaidd - yn bodoli erbyn dechrau tymor 2013/14.