Ydw i'n gallu galw fy hun yn Gymraes?

  • Cyhoeddwyd

Ddeng mlynedd yn ôl dechreuodd Francesca Sciarrillo ddysgu Cymraeg. Cafodd ei geni yng Nghymru i deulu o Eidalwyr ond mae hi wastad wedi teimlo gwrthdaro mewnol am alw ei hun yn Gymraes.

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru fe holodd Cymru Fyw Francesca i ymhelaethu ar rywbeth a gododd yn ystod pennod o'r podlediad Dim Ond Geiriau wrth drafod llinell agoriadol ein hanthem.

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi...

Francesca SciarrilloFfynhonnell y llun, Francesca Sciarrillo
Disgrifiad o’r llun,

Francesca yn Taormina, yr Eidal y llynedd

Dwi'n un sy'n caru iaith ac yn ceisio fy ngorau i fyw fy mywyd rhwng cloriau llyfrau gymaint â fedra i, ond nid ers dyddiau'r brifysgol ydw i wedi cael cymaint o gyfle i feddwl ac ystyried geiriau penodol, a'u pwysigrwydd yn fy mywyd.

Nid geiriau yn unig ond sut y gall iaith ddod â ni'n nes, neu ein dieithrio, o synnwyr o hunaniaeth. A hynny oherwydd dau brosiect cyffrous sydd wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Y gyntaf, podlediad Dim ond Geiriau, sydd yn ein hannog yn syth bin i bendroni ar eiriau gwahanol.

A'r llall: cyfle i sgwennu stori ffeithiol greadigol i'r gyfrol Man Draw a gyhoeddwyd ar ddechrau mis Hydref gan gylchgrawn Cara.

Francesca Sciarrillo
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Francesca y fedal Dysgu Cymraeg yn EIsteddfod yr Urdd 2019

Ar y podlediad, mae Stephen Rule, neu'r Doctor Cymraeg, a finnau'n trafod amryw o eiriau sy'n dechrau efo llythrennau'r gair 'Cymraeg'.

Felly llond llaw o eiriau fesul pennod: rhai sy'n dod ag atgofion aton ni, neu'n gwneud i ni hapus; rhai sy'n dân ar ein croen, a rhai sydd wedi siapio ein perthynas heddiw efo'r Gymraeg fel dau berson sydd wedi cyrraedd yr iaith yn hwyrach ymlaen yn ein bywydau.

Francesca a Stephen
Disgrifiad o’r llun,

Recordio'r podlediad Dim Ond Geiriau gyda Stephen Rule

Ac yn y stori fer, dwi'n edrych yn ôl ar amser y treuliais yn yr hen wlad, yr Eidal, yn ôl yn 2023, a chwmni annisgwyl – ac anweledig – merched fy nheulu, wrth i mi feddwl am fy hunaniaeth a'm bywyd yng Nghymru.

I roi 'chydig o gyd-destun i chi: symudodd fy Neiniau a Theidiau o'r Eidal i Gymru yn y 50au hwyr a 60au cynnar. Ac ers hynny, mae teithiau'n ôl ac ymlaen rhwng y ddwy wlad wedi bod yn rhywbeth cyfarwydd, hyfryd ac, ar adegau, yn dorcalonnus, i'r rhai ohonom ni yn y teulu – fel fy rhieni, fy chwaer a finnau – sydd wedi bod yn ffodus o wneud.

Stondin Cara, Ffair Fai Cara 2025Ffynhonnell y llun, Els Pam Pels
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cara yn gylchgrawn gan ferched i ferched Cymru

Felly pan gysylltodd cylchgrawn Cara i holi a fyddai gen i ddiddordeb i gyfrannu stori fer at gyfrol o straeon taith, greadigol, doedd dim angen i mi grwydro'n rhy bell i ddod o hyd i ysbrydoliaeth o ran pa wlad i ddewis a pha eiriau i gychwyn y broses sgwennu.

Meddyliais yn syth am un o'm hoff eiriau (sydd hefyd wedi'i drafod ar y podlediad): Annwyl, a'r gair Eidaleg amdano, Cara.

Yn y stori, dwi'n deud y canlynol:

"Cynnes a chadarn: mae cara wedi bod yn bresennol ar hyd y blynyddoedd a heddiw yr un mor bwysig ag erioed. Achos wrth ei ymyl mae 'annwyl'. Ychwanegiad mwy diweddar i'm bywyd, a gair sy'n dod ag agosrwydd i'm meddwl: at bobol, at iaith, at wlad.

"Mae'r ail ran o linell agoriadol yr anthem genedlaethol yn gwneud synnwyr perffaith i mi: y dechrau sy'n fwy cymhleth."

Mae hynny'n fy arwain yn ôl at bwnc a gododd ar bennod o Dim ond Geiriau, sef fy ansicrwydd i alw fy hun yn Gymraes yn hyderus yn sgil trafodaeth am agoriad yr anthem genedlaethol.

Er fy mod i wedi cael fy ngeni a'm magu yng Nghymru ac yn hynod o falch o'r wlad, diwylliant ac iaith, mae fy enw a'm gwreiddiau'n cyfleu hunaniaeth wahanol. Un sydd hefyd yn dod â balchder a chariad wrth gwrs, ond cymhlethdod yn ogystal.

Ond, ar y llaw arall, mae'r Gymraeg; yr iaith sydd wedi cynnig noddfa i mi ers i mi ddechrau ar daith i'w dysgu hi dros ddegawd yn ôl.

Yn sicr, cymera' i bob cyfle i frwydro dros hawliau a phwysigrwydd y Gymraeg – rhywbeth sydd wedi ac yn parhau i achosi trafodaethau annifyr ac anghyfforddus am hunaniaeth weithiau, yma yng Nghymru a thu hwnt.

francesca sciarrilloFfynhonnell y llun, francesca sciarrillo

Y ddadl yw: dwi'n enghraifft ddrwg o Gymreictod gan fy mod i'n galw fy hun yn Eidales yn gyntaf oll. Ond eto, ac yn bwysicaf oll, dwi'n Eidales sy'n gallu mynegi ei hun trwy'r Gymraeg yn well nag unrhyw iaith arall.

Felly dwi wastad wedi cael perthynas gymhleth efo hunaniaeth. Erbyn hyn, dwi'n ceisio diffinio fy hunaniaeth fy hun – rhywbeth rhyfedd i dd'eud gan ystyried mai 'hunan' sy'n eistedd wrth graidd y gair 'hunaniaeth'.

Ac yn benodol ar hyn o bryd, yn ystod cyfnod dychrynllyd o gynnydd senaphobia, dwi'n gwerthfawrogi brwdfrydedd a charedigrwydd y bobol o'm cwmpas i, fel Stephen ar y podlediad, a thîm Cara, am fy nerbyn, heb gwestiynau annifyr, fel siaradwr Cymraeg sydd hefyd yn camu'n nes ac yn nes at ystyried ei hun yn Eidales ac, efallai, yn Gymraes falch.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig