Concro Everest a choncro'r Gymraeg

- Cyhoeddwyd
Yn 2007 fe lwyddodd Tori James o Sir Benfro i wneud rhywbeth nad oedd unrhyw ddynes o Gymru wedi gwneud o'r blaen, gan gyrraedd copa mynydd ucha'r byd, Everest.
Roedd Tori yn 25 mlwydd oed yn cyflawni'r gamp - y ddynes ieuangaf o Brydain i gyrraedd copa Everest erioed.
Ynghyd â'i bywyd anturiaethol, mae Tori'n fam, yn siaradwr cyhoeddus, yn bodlediwr ac mae hi'n dysgu Cymraeg.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, siaradodd Tori gyda Cymru Fyw am ei bywyd a'i gyrfa.
Magwraeth yn Sir Benfro
"O'n i'n byw ar fferm yn Sir Benfro pan yn blentyn, ac roedd 'na lot o gyfleoedd am antur," meddai Tori.
"Doeddwn i ddim yn gwersylla ac ati gyda fy rhieni – doedd fy mam ddim yn rhy hoff o hynny, ond o'n i'n aelod o'r Girl Guides, Brownies a'r Rangers yn Hwlffordd."
Golygfa a welodd Tori tra ar wyliau a sbardunodd ei diddordeb mewn chwaraeon awyr agored.
"Dwi'n cofio ni'n mynd i Ardal y Llynnoedd ar wyliau a 'nes i weld pobl yn rhedeg fyny'r mynyddoedd yno, ac o'n i'n ffeindio hynny'n gwbl ysbrydoledig.
"Yna es i i'r ysgol yn y Bannau, gan fynd i'r chweched dosbarth yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, ac o'ddan ni'n gwneud pethau fel mynd fyny Pen y Fan ar ŵyl Dydd Iau Dyrchafael."

Tori'n cerdded ym Mannau Brycheiniog
"Pan o'n i'n iau o'n i'n rhedeg lot o draws gwlad, ac yn chwarae pêl-rwyd ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain. O'n i'n seiclo bob dydd hefyd, a oedd yn help ar gyfer y mynydda yn hwyrach mlaen."
Wedi iddi orffen ei haddysg dywed Tori iddi weithio gyda phobl a wnaeth ei hysbrydolodi.
"O'n i'n gweithio i British Exploring, ac fy swydd gyntaf oedd gyda'r Royal Geographical Society, yn cyd-weithio efo bobl oedd wedi gwneud pethau rhyfeddol fel dringo mynyddoedd enfawr a sgïo i Begwn y Gogledd. O'n i'n teimlo mod i eisiau gwneud yr un peth.
"Pan o'n i'n 25 'nes i gymryd rhan mewn ras sgïo i gyrraedd Pegwn y Gogledd, ac o'n i'n aelod o'r tîm cyntaf o ferched i gwblhau'r ras erioed.
"O'n i'n dringo yn Yr Alban, ac yn Eryri rhywfaint, yna 'nes i Mont Blanc yn Yr Alpau a Kilimanjaro yn Tanzania.
"Cyn gwneud Everest 'nes i fynydd Cho Oyu, sydd ar y ffin rhwng China a Nepal – y chweched mynydd uchaf yn y byd."

Tori'n sgïo a thynnu sled ym Mhegwn y Gogledd
Dringo Everest
Yn 2007 fe gyflawnodd Tori ei breuddwyd o gyrraedd copa Everest. Ond fel esboniai, roedd hi'n frwydr ariannol cyn dechrau'r her gorfforol.
"Hwn oedd y rhan anodda'! Fe gostiodd £54,000 i fi fynd 'da'r cwmni, ond erbyn hyn dwi'n meddwl bydda'n costio dros £80,000. I fod yn onest o'n i bron a rhoi'r gorau i'r syniad yn gyfan-gwbl gan fod e mor ddrud.
"Es i ar y daith efo fy ffrind Anna sy'n feddyg lawr yng Nghernyw. Es i i'r copa gydag Anna, a 'dyn ni'n trio dathlu bob blwyddyn ar 24 Mai, y dyddiad gyrhaeddon ni'r copa."

Ar y daith i gopa Everest
Erbyn heddiw mae dringo Everest efallai'n fwy o fewn cyrraedd pobl gyffredin (er gwaetha'r costau), ac mae hynny'n dod â heriau gwahanol yn ôl Tori.
"Mae'n brofiad gwahanol mynd lan Everest bellach.
"Ond weithiau, mae mwy o bobl ar y mynydd yn golygu ei fod yn fwy peryg.
"Os chi mewn ciw ar Everest, mae'n golygu eich bod yn sefyll yn llonydd, a dy'ch chi'n stopio creu cynhesrwydd naturiol o'r corff. O ganlyniad fe fyddech chi'n oer, a phryd hynny byddech chi'n agos iawn i beryglon frostbite a hypothermia.
"Fy lifeline i ar Everest oedd fy ngallu i barhau i symud a chadw'n gynnes. Mae'n bwysig cael y rhyddid 'na i symud a chadw'n gynnes, a dyna'r un peth chi rili isio gwneud.
"Mae dillad cynnes yn helpu wrth gwrs! Ond y ffordd mae goroesi ar y mynydd yw i ddal i symud, bwyta ac yfed."

Croesi Rhewlif Khumbu yn Nepal
"Hefyd, y nifer mwya' o bobl sydd ar y mynydd, y mwya 'di'r risg o 'ffactorau dynol', fel rhywun uwch eich pen chi'n gollwng rhywbeth.
"Pan o'n i ar fynydd Cho Oyu 'nath rywun uwch fy mhen i ollwng silindr ocsigen, ac fe aeth heibio fi yn ofnadwy o agos.
"O'n i'n gwisgo helmed ond os bydda hwnna wedi fy nharo i fyswn i wedi gallu cael anaf difrifol, neu hyd yn oed fy ngwthio oddi ar y mynydd."

Mae Tori'n llysgennad ar gyfer Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru, ac hefyd Girl Guiding UK
Dathlu llwyddiannau menywod
Yn ogystal â hybu bod allan yn yr awyr agored, ac arddel ei Chymreictod, mae Tori hefyd yn gweld pwysigrwydd mawr mewn dathlu llwyddiannau menywod yn y byd mynydda.
"Mae eleni'n flwyddyn arbennig, achos mae hi'n 50 mlynedd ers i ddynes ddringo Everest am y tro cyntaf - Junko Tabei o Japan.
"'Nath o fy nharo i bod neb yn gwybod ei henw hi, ac felly mae rhai o'r prosiectau dwi 'di gwneud eleni'n rhoi sylw ar lwyddiannau menywod yn y byd mynydda, a gofyn - pam dydyn ni ddim yn gwybod ei henw hi?
"Dwi eisiau rhannu'r straeon am y menywod 'ma, achos mae genna ni rhyw safbwynt stereotypical o be ydi o i fod yn 'ddewr', 'cryf' ac yn 'arwr'. Mae merched wedi bod yn dringo yn y mynyddoedd ers canrifoedd, nid jest ers yr hyn wnaeth Junko Tabei 50 mlynedd yn ôl.
"Yn fy mhodlediad, First Females, dwi'n siarad efo menywod a oedd yn cyntaf i gyrraedd copa Everest o wahanol wledydd, ac adrodd y stori o be oedd e'n golygu i nhw i gyflawni'r gamp 'ma."

Junko Tabei, ar y chwith, gyda Sirdar Ang Tsering. Fe gyrhaeddodd Tabei copa Everest ar 16 Mai, 1975
Pam dysgu'r Gymraeg?
"Dwi'n falch iawn o ddod o Gymru, a dwi 'rioed 'di teimlo'n fwy balch na pan es i â baner Cymru i gopa Everest. Pan o'n i'n tyfu lan o'n i'n cael fy ysbrydoli gan bobl oedd wedi cynrychioli Cymru yn y byd chwaraeon, ac o'n i'n dweud fyswn i'n caru gwneud rhywbeth fel'na.
"O'dd e'n glir bo' fi ddim am fynd i'r Olympics, ac o'n i ddim digon da yn y chwaraeon traddodiadol, er bo' fi wedi bod yn eitha' sporty pan o'n i'n iau."
Dywed Tori mai ei phlant oedd y brif ysbrydoliaeth dros ddysgu Cymraeg.
"O'n i'n byw yn Llundain am 10 mlynedd a falle doedd y cyfleoedd i ddysgu ddim yna. Ond y gwir ysgogiad ges i oedd fy mhlant. Mae fy mab yn wyth a fy merch yn bump, ac yn mynd i ysgol Gymraeg.
"Hwn oedd y cyfle gorau bosib i mi ddysgu Cymraeg, ac mae 'di agor drws i mi o'n i ddim yn gwybod o'dd 'di cloi. Mae 'di agor byd newydd i mi i fod yn onest, byd a oedd reit dan fy nhrwyn i o'r blaen."

Tori ar drip diweddar ar Gamlas Aberhonddu gyda'r teulu
Mae Tori wastad wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd, ac mae hi'n dweud bod dysgu Cymraeg yn broses mae hi'n ei fwynhau yn fawr.
"'Nes i Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer Lefel A, felly dwi'n mwynhau ieithoedd ac yn mwynhau'r her – mae'n sicr yn gweithio'r ymennydd! Dwi'n dysgu ers pedair mlynedd a dwi'n ffeindio mod i'n gallu gwneud pethau nawr doeddwn i methu gwneud y llynedd.
"Mae wedi fy atgoffa i o ba mor bwysig yw hi i ddysgu'n raddol, achos ni'n byw mewn byd ble mae 'na instant gratification, ma' pobl eisiau gwneud pethau'n gyflym. Mae pobl yn ddiamynedd ac eisiau atebion yn syth, ac mae dysgu iaith yn ein arafu i lawr a rwy'n mwynhau e.
"Mae fy chwaer, sydd wedi bod yn byw yn Seland Newydd ers 12 mlynedd ond sydd bellach nôl yng Nghymru, hefyd yn dysgu Cymraeg. Mae'r tiwtoriaid wedi bod yn wych gyda fi, dwi wedi gwneud ffrindiau newydd, ac mae siaradwyr rhugl yn fy annog i ac yn siarad bach arafach i fi, ac wedi bod mor gefnogol."

Mae Tori bellach yn siaradwr cyhoeddus profiadol ac yn cynnig sesiynau hyfforddi
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Mai
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024