Mabwysiadu 'ddim yn syml ond mae'n brofiad anhygoel'

Yn ôl Gwawr Job-Davies (dde), mae mabwysiadu gefeilliaid gyda'i gwraig wedi bod yn brofiad "arbennig"
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer y bobl sengl a chyplau un rhyw sy'n mabwysiadu plant yng Nghymru ar gynnydd.
A hithau'n wythnos mabwysiadu, mae rhieni sydd wedi mynd drwy'r broses yn annog mwy o bobl i wneud hynny.
Ers i'r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru gael ei sefydlu dros ddegawd yn ôl mae nifer y cyplau un rhyw sy'n mabwysiadu plant wedi cynyddu 22% tra bo nifer y bobl sengl sy'n mabwysiadu wedi cynyddu 10%.
Ar raglen Dros Frecwast fore Llun, soniodd Gwawr Job-Davies am brofiadau "arbennig" hi a'i gwraig - sydd wedi mabwysiadu gefeilliaid.
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
'Mae nawr yn amser da' yw enw ymgyrch ddiweddaraf Gwasanaeth Mabwysiadu Cymru, ac mae Gwawr yn dweud y byddai hi yn sicr yn annog eraill i ystyried mabwysiadu.
"Mae 'na gymaint o blant sydd angen teulu - ac mae gan bobl sengl a chyplau un rhyw lot fawr iawn o gariad a sgiliau i'w rhoi, felly mae'n braf gweld y niferoedd yn cynyddu."

Esboniodd Gwawr, sy'n gyn-gystadleuydd ar gyfres Tŷ Ffit S4C, nad yw'r broses yn syml ond bod digon o gefnogaeth ar gael.
"O'dd ein profiad ni yn bositif iawn, mi oedden ni'n lwcus iawn mewn nifer o ffyrdd - gawsom ni weithiwr cymdeithasol oedden ni'n dod ymlaen efo yn dda iawn.
"Ma'r broses yn un trylwyr, maen nhw'n gorfod mynd mewn i'ch bywyd chi'n fanwl iawn, ond roedden ni'n barod am hynny ac roedden ni'n barod i fod yn agored.
"Welon ni'r broses yn anodd mewn rhai ffyrdd, ond hefyd yn lot gwell nag oedden ni'n disgwyl - ma'r gynhaliaeth sydd gennych chi drwy'r tîm, a'r hyfforddiant maen nhw'n rhoi i chi drwy'r broses yn dda."
Cefnogaeth yn y Gymraeg yn 'hollbwysig'
Ychwanegodd Gwawr fod angen i bobl fod yn barod am y wahanol heriau all ddod law yn llaw a mabwysiadu hefyd.
"Nid just plant sy'n dod atoch chi, maen nhw'n blant sydd efo hanes - felly mae o'n hollbwysig ei fod o'n mynd yn iawn, a bo' gennym ni'r sgiliau gorau posib i allu rhoi cartref a helpu'r plant yma.
"Dydi o ddim yn syml, maen nhw'n dod â phroblemau bach efo nhw, ond maen arbennig, maen brofiad anhygoel."
Mae cymorth ychwanegodd ar gael os oes angen hefyd, meddai.
"'Swn i'n deud bo' ni'n weddol lwcus, ond mae'n bwysig eich bod chi'n gofyn am help.
"Ma' cyllid yn brin, fel efo bob dim, ond mi ddaru ni ychydig flynyddoedd ar ôl i'r plant ddod adref - wnaethon ni ddod i wybod bod un o'r plant yn cael night terrors a phroblemau emosiynol a ddaru ni estyn allan a gawson ni'n cyfeirio at seicolegydd clinigol 'nath edrych fewn i ffeils a hanes y genod a rhoi help i ni a siarad efo ni am yr hyn oedd yn bosib wrth symud ymlaen.
"Mae 'na grwpiau cefnogaeth hefyd, gafodd un Cymraeg ei sefydlu, ac roedd hynny'n hollbwysig i ni fel teulu - gallu siarad yn agored yn ein hiaith ein hunain gyda phobl eraill sy'n mynd trwy'r un peth ac i'r plant gael cysylltu efo plant eraill sydd mewn sefyllfa debyg."

Mae Gwawr yn falch o weld mabwysiadu yn cael ei drafod mewn cyfresi teledu diweddar hefyd
Ychwanegodd Gwawr ei bod hi'n braf gweld rhai cyfresi llwyddiannus yn ddiweddar yn rhoi sylw i fabwysiadu.
Roedd 'Lost Boys and Fairies' - gafodd ei ysgrifennu gan y dramodydd Daf James - yn dilyn cwpl hoyw drwy'r broses fabwysiadu, tra bod y gyfres gomedi 'Trying' hefyd yn ymdrin â'r pwnc.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig bod 'na raglenni sy'n dangos y realiti - doedd o ddim yn gyflwyniad 'Disney' o'r broses fabwysiadu (Lost Boys and Fairies), mi oedd o reit wir i sut mae'n gallu bod a'r teimladau 'da chi'n mynd trwy," meddai Gwawr.
"Ac o ran y plant hefyd, drwy weld plant eraill sydd wedi'u mabwysiadu ma' nhw'n gweld bod 'na rywun fel fi, neu fod hynny'n normal - ffaith o hanes bywyd rhywun ydi cael eich mabwysiadu, dim rhywbeth sydd o'i le arnoch chi.
"Ma' cael y neges allan yna yn rili bwysig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.