Dim gorwel, dim problem: Teyrnged i'r Cymoedd

Lois Roberts yn ifanc o flaen tŷ terasFfynhonnell y llun, Lois Roberts
  • Cyhoeddwyd

Lois Roberts yw awdur Cymoedd, cyfrol o straeon byrion am y gwahanol ardaloedd sy'n uno i greu Cymoedd y de, a'r merched sydd wrth galon y cymunedau.

Mae'r Cymoedd yn llifo drwy wythiennau Lois. A hithau wedi ei geni a'i magu yn Nhrelewis, yn dilyn cyfnod yn byw i ffwrdd o'i chynefin, mae hi bellach nôl adref yn ei milltir sgwâr ac wedi ymgartrefu yn Nelson.

Ond beth sydd mor arbennig am y lle? Lois sy'n egluro:

Lois RobertsFfynhonnell y llun, Lois Roberts

Darllenais unwaith am "the sky-rich counties of England" — ardaloedd fel East Anglia, lle mae'r awyr yn ymestyn yn ddiddiwedd. Galwodd W.G. Sebald dirwedd Suffolk yn "echo-chamber for the memory".

Mae'n swnio'n hudolus; epig; arallfydol. Dydw i erioed wedi bod i East Anglia, dim ond wedi'i weld ar y teledu. Ond alla i ddim dychmygu tirwedd yn fwy gwahanol i'r lle cefais fy magu.

Mae'n deg dweud bod y Cymoedd yn "sky-poor"; a phob math arall o "poor" pe bai'n dod i hynny. Yn ôl ffigurau, mae llawer o gymunedau'r Cymoedd ymhlith y 10% o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru - o ran incwm, iechyd, addysg, a mynediad at wasanaethau.

Ond dyna'r wyneb. O dan y penawdau hynny, mae gwythiennau cyfoethog yn dal i fod.

Mae e yn y rhesi diddiwedd o dai teras lle mae'r gwynt yn datgelu cyfrinachau'r be' chi'n cael i de. Mae e yn yr hen ganeuon ar dafodau ieuengaf y clwb rygbi. Mae yn y sgyrsiau am ba bus-stop sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y C17 i Lanbradach.

Tai terasFfynhonnell y llun, Lois Roberts

I'r rhai sy'n llai cyfarwydd â'r ardal, oherwydd y ddaearyddiaeth, mae'r lle yn debycach i fysedd hir yn arwain o gledr llaw nag i nyth cymhleth dinas fawr.

Mae hynny'n ein gwneud ni'n dueddol o edrych i fyny ac i lawr ein cwm ein hunain, a phrin yw'r awydd i deithio ar draws i gwm arall.

Tan yn ddiweddar, nid oedd angen - roedd y gwaith, y clwb, y capel, a'r siopau i gyd dafliad carreg i ffwrdd. (Ac wrth gwrs, rwy'n mynd i ddiolch i Mrs. Thatcher a'i chiwed am roi stop ar hynny.)

Ond mae'r hen arferion yn glynu. Mae'r hen batrymau cymunedol hynny'n dal eu tir.

Pan ddaeth Mam i wybod drwy bori ar-lein mai'r Asda agosaf ati yn Nhrelewis (Cwm Taf Bargoed) oedd un y Coed Duon (Cwm Rhymni), a'i bod wedi treulio ugain mlynedd yn teithio i fyny i Asda Dowlais (Cwm Taf), bron iddi syrthio oddi ar ei chadair.

I'r un perwyl ond ar nodyn mwy ysbrydol a llai archfarchnadol, rhannodd y bardd enwog, Pennar Davies o Aberpennar (Cwm Cynon), syndod fy Mam yn hynny o beth:

"Pan oeddwn i'n fachgen,

roedd byd rhyfeddol uwchben y mynydd:

roedd yr haul yn disgleirio yno...

cyn i mi groesi'r mynydd

a gweld."

Bedwyr a Joseff gyda'r mynyddoedd yn y cefndirFfynhonnell y llun, Lois Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Er fod Lois wedi byw yn Aberystwyth a Chaerdydd, mae hi wedi symud nôl adref, ac mae ei meibion, Joseff a Bedwyr, yn cael magwraeth debyg i'r un y cafodd hi, yn y Cymoedd

Mae'r lle y tu hwnt i'r mynyddoedd (neu'r "bryniau" y mae fy ngŵr o'r Gogledd yn mynnu eu galw) yn dal i fod yn lle dirgel, anghyfarwydd i ni.

Mae pob cwm yn wahanol ac mae ganddo ei gymeriad a'i acen unigryw ei hun. Ac rydyn ni'n ffyrnig o ffyddlon, a bodlon.

Nid ydym yn gweld y gorwel - ond rydyn ni'n gweld ein gilydd. Rydyn ni'n gwybod o ble rydym yn dod. Ac mae hynny'n golygu rhywbeth.

Rydyn ni'n cwyno, wrth gwrs, fel pawb ym mhobman rwy'n siŵr - am y tyllau yn y ffordd, prisiau'r trên, y wi-fi patchy. Mae'r colledion yn brifo: mae llyfrgelloedd yn cau, mae neuaddau gweithwyr yn diflannu, mae amgueddfeydd yn cael eu gwerthu.

"Mae'ch etifeddiaeth ar werth", chwedl Huw Chiswell. Ond mae'r fandaliaeth hon wedi'i gwneud gan ein pobl ein hunain, y rhai a etholwyd gennym ni i wneud pethau'n well i ni. Ac allwn ni ddim beio Thatcher am hynny.

Mosaic TrelewisFfynhonnell y llun, Lois Roberts

Am y tro cyntaf erioed efallai, mae Cwm Rhymni, Glyn Ebwy, Cwm Aber, a Chwm Sirhywi yn y sbotolau. Mae isetholiad Caerffili ar y gorwel - ac mae pyndits yn dweud mai dyma'r isetholiad pwysicaf ers dechrau datganoli.

Wrth i mi deipio hyn, rwy newydd ateb y drws i rywun sy'n canfasio ar ran un o'r ddau geffyl blaen yn y ras. Mae Plaid Cymru a Reform UK yn cystadlu am y sedd, gan geisio chwalu gafael hanesyddol Llafur ar y Cymoedd.

Byddai Llafur yn colli yn arwydd o newid arwyddocaol mewn ardal sydd wedi bod yn ffyddlon goch ers canrif. Ac felly mae ein dyfodol yn ansicr.

Llion, Bedwyr, Lois a JoseffFfynhonnell y llun, Lois Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Lois gyda'i gŵr, Llion, a'u meibion, Joseff a Bedwyr

Ond mae dyfodol cymuned yn dibynnu ar fwy na phleidiau gwleidyddol - mae'n dibynnu ar ei phobl.

Ers bron i ddegawd rydw i wedi gweithio yng Ngholeg y Cymoedd; coleg addysg bellach sy'n gwasanaethu cymunedau ledled y Cymoedd. Rydyn ni'n gweld potensial ym mhob dysgwr, boed yn 16 neu'n 60 oed, ac yn credu bod dysgu yn ffordd o dorri'r cylch dieflig a gwella bywydau.

A dweud y gwir, mae'n anodd peidio â theimlo'n obeithiol pan welwch chi ofalwr ifanc yn pasio ei chwrs ac yn sefydlu busnes, neu fyfyriwr digartref yn ennill 4 A yn ei arholiadau Lefel A, neu grwt a oedd yn casáu popeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg ers ei ddyddiau ysgol yn gofyn i gael gwisgo bathodyn yn cydnabod ei fod yn gallu siarad Cymraeg.

Mab Lois yn dal ei llyfrFfynhonnell y llun, Lois Roberts/Gwasg y Bwthyn

Yn y coleg, rydyn ni'n defnyddio Made in the Valleys ar ein stwff hyrwyddo, ac wedi troi'r stereoteip o'r Valley Girl a Valley Boy yn rhywbeth i'w ddathlu.

Ydy, mae rhai o'n myfyrwyr eisiau teithio, ehangu gorwelion, yn Awstralia neu Rydychen neu hyd yn oed Caerdydd (sy'n teimlo'n bell i ffwrdd os ydych chi'n dal y bws o Flaencwm).

Ond mae llawer eisiau aros, cryfhau, gwasanaethu eu cymunedau, a throedio llwybrau eu neiniau a theidiau, a ffynnu yn y terasau hynny.

Ac mae hynny'n iawn. Mae hynny'n wych.

Mae'n werth cofio bod gwybod sut i drwsio boeler yn Nhreorci yr un mor werthfawr â gallu dyfynnu Rousseau yn Soho. Dyma uchelgais nad yw'n hedfan, ond sy'n gwreiddio.

Mae tynged y Cymoedd - a Chymru gyfan - yn y fantol y mis hwn. A Duw a ŵyr sut y bydd yn mynd yn yr isetholiad.

Ond rwy'n gwybod hyn: efallai ein bod yn "sky-poor" - ond rydyn ni'n "roots-rich". Ac mae hynny'n sail ar gyfer dyfodol sy'n werth ei adeiladu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig