Aelod Seneddol Bangor Aberconwy yn derbyn triniaeth canser y fron

Mae Claire Hughes wedi cadarnhau ei bod wedi derbyn ei llawdriniaeth gyntaf yn Ysbyty Gwynedd ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Bangor Aberconwy, Claire Hughes, wedi dweud ei bod hi wrthi'n derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.
Yn ôl Ms Hughes, fe gafodd ddiagnosis yn gynharach yn y mis a'i thriniaeth gyntaf ddydd Gwener, ar ôl darganfod lwmp yn ei bron.
Ychwanegodd nad oedd hi'n "siŵr eto sut mae'r wythnosau a'r misoedd nesaf yn edrych", ond ei bod yn derbyn triniaeth "anhygoel" gan dîm Ysbyty Gwynedd.
Cafodd Claire Hughes ei hethol fel Aelod Seneddol Llafur ym mis Gorffennaf y llynedd ac ym mis Medi eleni cafodd ei phenodi yn weinidog yn Swyddfa Cymru.
'Triniaeth anhygoel'
Cadarnhaodd Ms Hughes ei bod wedi derbyn ei llawdriniaeth gyntaf yn Ysbyty Gwynedd ddydd Gwener, gan ddweud mewn neges ar-lein ei bod hi nawr "yn debygol o fod angen cwrs o gemotherapi a radiotherapi".
Ychwanegodd fod y "diagnosis a'r driniaeth dwi wedi eu cael hyd yn hyn yn Ysbyty Gwynedd wedi bod yn anhygoel".
O ran ei gwaith fel Aelod Seneddol, dywedodd y byddai "angen i mi gymryd cam yn ôl dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf - o ran peidio bod allan ac o gwmpas yn yr etholaeth gymaint ag ydw i fel arfer".
"Dwi eisiau i chi wybod fy mod i yn dal yma i'ch cynrychioli chi, i ymladd ar eich rhan ac mae fy nhîm dal yma i'ch helpu chi yn union fel arfer - gyda gwaith achos a phopeth arall y gallech chi fod angen.
"Bydda' i'n gwneud fy ngorau glas i ddod dros hyn, i ddychwelyd a gwneud fy rôl fel eich Aelod Seneddol, gan ymladd dros ein dyfodol yma ym Mangor Aberconwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.