Gŵyl Sŵn: 5 uchafbwynt Martha Elen

Tiny Rebel - Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Gŵyl Sŵn
Disgrifiad o’r llun,

Martha'n perfformio yn Tiny Rebel nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Roedd hi'n benwythnos prysur yng Nghaerdydd gyda Gŵyl Sŵn yn cael ei chynnal yn y brifddinas unwaith eto.

Rhywun a oedd yn perfformio nos Iau oedd y gantores Martha Elen o'r Felinheli.

Yn ogystal â pherfformio ei hun, cafodd Martha'r cyfle i fwynhau perfformiadau artistiaid eraill dros y penwythnos, ac yma mae hi'n rhannu rhywfaint o'i huchafbwyntiau o Gŵyl Sŵn 2025.

1. Ynys

Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Martha Elen
Disgrifiad o’r llun,

Gig Ynys yng Nglwb Ifor bach, nos Wener

Odd hi'n one in one out ar lawr gwaelod Clwb Ifor Nos Wener felly o'n i'n falch mod i 'di llwyddo i stwffio digon agos i'r llwyfan i weld Ynys ar gyfer be' oedd gig ola'r flwyddyn iddyn nhw.

Ma' egni Ynys wastad yn wych yn fyw a 'nath y gig yma yn sicr ddim siomi. 'Nes i fwynhau cael un cyfle arall eleni i glywed rhai o'r tracia' bachog o'r albwm gwych Dosbarth Nos. Edrych ymlaen yn barod at weld Ynys flwyddyn nesaf ac i weld be ddaw nesa' gan y band!

2. Clara Mann

Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Martha Elen
Disgrifiad o’r llun,

Clara Mann yn perfformio yn Eglwys Sant Ioan

Ma' Gŵyl Sŵn yn le perffaith i ddod o hyd i artistiaid a bandiau 'da chi erioed 'di clywed amdanyn nhw o'r blaen - a Clara Mann oedd hon i mi eleni. Artist o Loegr wedi'i magu yn Ffrainc ydi hi, a ma' ganddi hi ddawn anhygoel, nid yn unig yn ei llais sydd mor ddiymdrech o swynol, ond yn ei ysgrifennu a'i geiriau hi yn enwedig.

'Doeddwn i heb wrando ar Clara Mann cyn Nos Wener, ond roedd camu drwy ddrysau Eglwys St Ioan (ella fy hoff leoliad yn Sŵn eleni) a chael fy swyno am hanner awr ynghyd â llond torf o Sŵn-wyr eraill yn brofiad eitha' ysbrydol i ddeud gwir!

3. Sage Todz

Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Martha Elen
Disgrifiad o’r llun,

Sage Todz o Benygroes yn perfformio ar y llwyfan

Mae llawer ohonom ni sy'n dilyn cerddoriaeth Gymraeg yn 'nabod Sage Todz ac wedi'i weld mewn gwyliau fel Tafwyl, ynghyd â'r holl hwyl a'r mosh pits sy'n cyd-fynd a'i berfformiadau.

Ond roedd ei set yn Boho ar Heol Santes Fair nos Wener yn brofiad hollol wahanol a nes i wir fwynhau gweld Sage Todz yn perfformio gyda'i fand am y tro cyntaf, a chael clywed mwy o'i lais canu yn ei ganeuon teimladwy (ymysg y tracia rap sy'n glasuron erbyn hyn!).

Oedd hon yn gig sbesial i Sage Todz a'i fand 'swn i'n deud, nid yn unig am fod y dorf i gyd wir yn mwynhau a'n cyd-ganu, ond am fod tad Sage Todz yn un o'r lleisia hynny yn dod o'r gynulleidfa hefyd!

4. Adult DVD

Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Martha Elen

I gloi noson gyntaf Gŵyl Sŵn ar lwyfan llawr top Clwb Ifor daeth Adult DVD, band electronig o Leeds i gynhesu ni i fyny yn iawn yn barod at benwythnos prysur.

Mae 'na chwe aelod a rwbath sy'n edrych fel lot gormod o synths yn y band, ond ma'r holl haena o sŵn a'r llinella' bachog sydd ganddyn nhw yn creu rwbath hollol heintus ac unigryw.

Ma' nhw'n fand byw anhygoel 'nath neud i'r lle neidio am awr gyfan bron iawn - ewch i weld rhain os 'da chi awydd earworms electronig a lot fawr o egni!

5. Getdown Services

Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Martha Elen

Dwi'n meddwl hon o'dd un o'n hoff gigs i mi weld *erioed*.

Ma' Getdown Services, sef y ffrindiau Josh Law a Ben Sadler, yn ddau sy'n cynnig rwbath sy'n gyfuniad perffaith o gomedi a cherddoriaeth.

Ma'u caneuon nhw yn fachog, yn wirion a jyst yn gymaint o hwyl. Wir yn awgrymu i unrhyw un fynd i weld y band yma os 'da chi'n cal y cyfle. Yn dilyn gigs yng Nghwrw Caerfyrddin ac yng Nghlwb Ifor Bach, ma' gan y ddau soft spot am Gymru swni'n deud (gneud sens), ac o'dd cyd-ganu anthem Cymru yn Tramshed i orffen fy Ngŵyl Sŵn 2025 yn uchafbwynt a hanner.

Ychwanegol (Radio Sudd - Marchnad Caerdydd)

Gŵyl SŵnFfynhonnell y llun, Martha Elen

Rhaid i mi hefyd roi shoutout i DJs Radio Sudd, oedd yn llenwi Marchnad Caerdydd â digon o diwns gyda'r nosau - profiad newydd gweld y Farchnad yn fywiog gyda'r nos (geith hyn fod yn rhywbeth wythnosol plîs?🙏)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: