Y Cymry yn 'arwyr i Lydawyr' oherwydd cryfder y Gymraeg

Nolwenn KorbellFfynhonnell y llun, Nolwenn Korbell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nolwenn Korbell yn byw yng Nghymru yn yr 1990au

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor a'r actores o Lydaw, Nolwenn Korbell wedi dweud bod y Cymry yn "arwyr" oherwydd cryfder y Gymraeg.

Dywedodd y Llydawes fod dychwelyd i'w mamwlad yn anodd ar ôl bod yng Nghymru gan nad ydi ei hiaith frodorol i'w gweld na'i chlywed yn ei chymuned.

"Pan o'n i yng Nghymru ac yn gweld pa mor gryf oedd yr iaith – i ni Lydawyr rydych chi'n gryf iawn," meddai.

"Waw, 'da chi wedi mynd yn bell iawn efo'ch iaith – efo'r Steddfod a phawb yn siarad Cymraeg a'r holl bethau sydd wedi cael eu creu yn Gymraeg. 'Da chi'n arwyr i ni mewn ffordd."

Canu gyda Bob Delyn a Lleuwen

Roedd y cerddor yn byw yng Nghymru yn yr 1990au pan oedd hi'n aelod o'r band Bob Delyn a'r Ebillion.

Fe wnaeth hi ddychwelyd i Lydaw, ac wedi bod yn byw yno ers nifer o flynyddoedd bellach ond roedd hi yn Eisteddfod Pontypridd y llynedd yn canu gyda Lleuwen Steffan.

Dywedodd mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru: "Ar ôl bod yng Nghymru a dod yn ôl i Lydaw wedi gweld hyn i gyd - mae'n eitha' caled dod yn ôl i ryw realiti caled lle does 'na ddim lot o bobl yn siarad yr iaith a dydi'r iaith ddim wedi cael ei sgwennu yn bob man o leia' yn ddwyieithog."

Mae Ms Korbell, gafodd ei magu yn Douarnenez, yn gerddor sy'n sgwennu caneuon yn yr iaith Lydaweg.

Roedd hi'n byw yng Nghymru pan oedd hi mewn perthynas gyda'r bardd a'r cerddor Twm Morys, ar ôl ei gyfarfod yn Roazhon, neu Rennes, lle wnaeth hi astudio Almaeneg, Llydaweg a Chymraeg cyn mynd ymlaen i wneud drama.

Dywedodd fod symud yn ôl i Lydaw flynyddoedd yn ddiweddarach wedi creu hiraeth am ei ffrindiau yng Nghymru, am siarad Cymraeg ac am rai "pethau hyfryd" am y wlad.

"O'n i'n colli'r pethau hyfryd welais i yna fel y lle mawr 'da chi'n rhoi i farddoniaeth yng Nghymru – sy'n anhygoel ac yn wahanol i bob man dwi'n meddwl," meddai.

"O'n i erioed wedi gweld matches o feirdd cyn hynny - Talwrn y Beirdd.

"Roedd Twm yn cystadlu yn aml wrth gwrs yn Y Talwrn ac mi es i efo fo i weld sut oedd y pethe'n mynd ac roedd hynny yn anhygoel ac yn mor hyfryd i weld sut oedd un bardd yn sefyll ac yn dweud yr englyn ag un arall yn dweud rhywbeth ar yr un themâu."

Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 1800 ar 19 Hydref neu ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.