Lluniau: Gŵyl Sŵn 2025
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr ŵyl aml-leoliad, Sŵn, ei chynnal ar draws y brifddinas dros y penwythnos fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Dros y blynyddoedd mae Sŵn wedi cynnig llwyfan i rai o'r enwau mwyaf yng Nghymru gan gynnwys Gwenno, Cate Le Bon, Panic Shack, Mace The Great, Boy Azooga, ac Adwaith.
Ymhlith yr enwau o Gymru'n perfformio eleni oedd y rapiwr o Benygroes, Sage Todz; yr artist alt-RnB, Adjua; y seren bop CATTY, enillwyr Green Man Rising, Wing!; prosiect soul ac RnB, Source; ac Ynys, enillwyr gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, Eisteddfod Genedlaethol 2025.
Roedd Gruff Rhys yn ôl yn ar un o lwyfannau'r ŵyl hefyd, ar ôl chwarae yno ddiwethaf yn 2019.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar draws nifer o leoliadau y ddinas, gan gynnwys Tramshed, Clwb Ifor Bach, Eglwys Sant Ioan, Jacob's Basement, Fuel, The Canopi, Tiny Rebel, Boho Club a Porter's. Yn ogystal â'r gerddoriaeth, roedd cynhadledd i'r diwydiant cerddoriaeth yn Cornerstone a Porter's.
Dyma rhai o olygfeydd y penwythnos.

Breichiau Hir yng nghanol y gynulleidfa

Llawr uchaf Clwb Ifor Bach dan ei sang

Trafodaeth yng Nghynhadledd Sŵn Cysylltu

Un o'r lleoliadau mwyaf trawiadol yng nghanol y ddinas, Eglwys Sant Ioan

Getdown Services â pherfformiad egnïol

Un o brif atyniadau'r ŵyl eleni, prif leisydd Super Furry Animals, Gruff Rhys

Y perfformiwr o Lundain, Jessica Winter, ar y llwyfan

Daeth miloedd i Gaerdydd i fwynhau'r awyrgylch dros y penwythnos

Martha Elen yn perfformio yn Tiny Rebel ar nos Iau

Moonchild Sanelly, a oedd yn perfformio set hynod fywiog

Sywel Nyw yn perfformio'i set

Tai Haf Heb Drigolion
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd1 Medi