Pan ddaeth y syrcas i Dregaron

  • Cyhoeddwyd
dau eliffant mewn caeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Citta a Sandra - sêr ffilm deuluol newydd ar gyfer S4C fydd i'w gweld ar y sianel dros y Nadolig

Mae dau eliffant Affricanaidd wedi bod yn aros yn agos i Dregaron er mwyn serennu mewn ffilm a fydd i'w gweld ar S4C dros y Nadolig.

Y Syrcas yw enw'r ffilm deuluol sydd yn olrhain hanes merch ifanc sydd ddim yn cael rhyddid i fyw bywyd fel y mae hi eisiau am fod ei thad yn ceisio ei rheoli.

Mae'r syrcas yn dod i'r pentref ac er bod y trigolion yn gwrthwynebu'r ymwelwyr i ddechrau, gydag amser maent yn dod i'w derbyn.

Mae Sara, y prif gymeriad yn syrthio mewn cariad gyda'r eliffant a gyda bywyd y syrcas.

Citta a Sandra

Er mai dim ond un eliffant oedd angen ar gyfer y ffilm fe benderfynwyd dod â dau i'r ardal sef Citta a Sandra fel eu bod yn medru cymryd eu tro i chwarae'r rhan.

Dyw eliffantod ddim yn hoffi bod ar eu pennau eu hunain felly mae'r ddau wedi bod yn gwmni i'w gilydd.

Mae Y Syrcas wedi ei ysbrydoli gan hanes lleol. Dywed rhai bod syrcas deithiol wedi dod i'r ardal yn 1848 a bod un o'r eliffantod wedi ei daro'n sâl a marw. Yn ôl y stori, cafodd corff y creadur ei gladdu y tu ôl i dafarn y Talbot.

Dyw edrych ar ôl y ddau greadur ddim wedi bod yn waith hawdd. Mae'n rhaid i Citta a Sandra gysgu dan babell enfawr ac mae angen digon o le iddynt grwydro fel eu bod yn medru cael awyr iach. Muesli ceffylau, moron, afalau, gwair a bran yw eu bwyd a thunelli ohono!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gohebydd Newyddion 9, Aled Scourfield yn cwrdd ag un o'r eliffantod a'r gofalwr ger Tregaron

Sawl iaith

Bydd sawl iaith i'w clywed yn y cynhyrchiad terfynol am fod y ffilm yn adlewyrchu diwylliannau gwahanol gan gynnwys Ffrangeg, Gwyddeleg, Almaeneg, Sbaeneg ac iaith Yoruba.

Mae Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys S4C yn obeithiol y bydd nifer yn awyddus i weld y ffilm pan fydd yn cael ei darlledu:

"Mae Y Syrcas yn ffilm liwgar ac anturus. Gyda chast a chriw cynhyrchu meistrolgar ynghyd â gwisgoedd, set a lleoliadau ffantastig, byddwn yn ymgolli ym myd y syrcas a Chymru Oes Fictoria.

"Mae e'n gynhyrchiad uchelgeisiol sy'n croesi sawl iaith a diwylliant, ac fe fydd ei apêl yn eang - gyda stori enwog eliffant Tregaron wrth ei hanfod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol