Swyddi newydd gyda Village Bakery yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Edwina HartFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart yn dweud bydd yr arian ychwanegol yn galluogi'r cwmni i dyfu

Mae cwmni Village Bakery yn Wrecsam yn bwriadu creu 60 o swyddi newydd.

Mae'r cynllun £1.8 miliwn i ehangu'r safle, prynu offer newydd a chreu cynnyrch newydd wedi ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae 20 o swyddi eisoes wedi'u creu a bydd 40 o weithwyr ychwanegol yn cael eu cyflogi maes o law.

Mae hyn yn golygu bod nifer y staff yn dyblu i 118 ar y safle yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Ddwy flynedd roedd y cwmni - sydd yn cynhyrchu bwyd fel Picau ar y Maen, sgons a chrempogau - yn gwneud trosiant o £400,000. Mae'r swm hwnnw wedi cynyddu, yn ôl y cwmni, i £6 miliwn.

Ehangu'r busnes

Meddai Robin Jones, pennaeth Village Bakery: "Cawsom ein henwi'n ddiweddar fel y cwmni sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru ac rydym yn awyddus i gynnal y twf hwnnw ac mae gennym awch i ehangu.

"Rydym yn datblygu cynlluniau sy'n cynnwys canolfan hyfforddi ac arloesi newydd, gyda chyfleusterau i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o bobwyr er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y busnes a'i ddyfodol tymor hir. Hefyd, rydym yn ystyried becws newydd 60,000 troedfedd sgwâr."

Roedd Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart, yn ymweld â'r safle ddydd Llun gyda'r Gweinidog Masnach a Buddsoddi'r Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Green.

Mae Llywodraeth Cymru'n cyfrannu grant o £565,780 tuag at y cynllun.

Dywedodd Ms Hart: "Mae'r buddsoddiad eisoes wedi creu swyddi newydd, fydd yn helpu'r busnes i dyfu a daw hefyd â buddiannau i economi Cymru trwy ychwanegu at weithgarwch o fewn y gadwyn gyflenwi.

"Rwy'n falch, diolch i gymorth ariannol gan y Gronfa Datblygu Bwyd Amaeth, bod y Village Bakery yn gallu ymateb yn gyflym i wneud yn fawr o gyfleoedd masnachol sy'n cael eu cynnig gan eu cwsmeriaid mwyaf. Dyma enghraifft arall o Lywodraeth Cymru'n helpu busnes i dyfu ac i greu swyddi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol