Tân Llandŵ dan reolaeth

  • Cyhoeddwyd
Tan Llandw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhyw 20 o ddiffoddwyr yn parhau i ddelio â'r tân fore Mercher

Mae'r tân anferth ym Mharc Busnes Llandŵ bellach dan reolaeth ond mae disgwyl i ddiffoddwyr tân aros yno am rai dyddiau er mwyn delio gyda'r sefyllfa.

Gymaint oedd maint y tân bod bron i 90 o ddiffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau yn yr adeilad Siteserv un adeg.

Hwn oedd yr ail dân ar y stad o fewn mis wedi i adeilad Siteserv arall gael ei ddinistrio gan dân wahanol yn ddiweddar.

Daethpwyd i'r casgliad mai cael ei gynnau'n ddamweiniol wnaeth y tân cyntaf - mae ymchwiliadau i sut wnaeth yr ail dân ddechrau yn parhau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dweud bod y tân i'w weld wedi lledaenu o ddau le gwahanol.

'Aros fewn a chau ffenestri'

Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau fod rhai wedi gweld y tân dros Fôr Hafren

Dywedon nhw hefyd nad oes unrhyw asbestos wedi cael ei ddarganfod a mai'r ffaith fod llawer o ddeunyddiau fel plastig a chardbord yn y ffatri ailgylchu oedd yn rhannol gyfrifol am ffyrnigrwydd y tân.

Roedd rhyw 20 o ddiffoddwyr yn parhau i fod yno fore dydd Mercher gyda thair injan dân.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhybuddio pobl i fod yn ofalus er fod y risg i iechyd yn "isel iawn".

"Dydyn ni ddim yn disgwyl i bobl sy'n byw yn y cyffiniau i gael eu heffeithio ond os yw pobl yn sylwi ar fwg yna fe'u cynghorir i aros i fewn ac i gau drysau a ffenestri," meddai'r cyngor mewn datganiad.