Galw am ddiogelu creaduriaid y môr
- Cyhoeddwyd
Mae morfilod, dolffiniaid a siarcod angen eu diogelu rhag gor bysgota, llygredd a datblygiadau arfordirol yn ôl adroddiad ar ran Ymddiriedolaethau Natur.
Mae'r adroddiad yn dweud nad yw mesurau Llywodraeth San Steffan i ddiogelu bwyd gwyllt yn mynd yn ddigon pell.
Dywed y mudiadau fod angen gwell mesurau cyfreithiol i ofalu am fywyd morol mewn 17 o ardaloedd arfordirol, pedwar o'r rhain yng Nghymru.
Maen nhw'n galw am ddeddfwriaeth ychwanegol ar gyfer, dolffiniaid, llamidyddion a morfilod oddi ar arfordir Sir Fôn, Pen Llŷn, Bae Ceredigion a Sir Benfro.
Ardaloedd diogel
Dywed y Llywodraeth eu bod yn gweithio'n galed i ddiogelu'r creaduriaid.
Ond ychwanegodd llefarydd nad oeddynt o'r farn mai ardaloedd diogel oedd yr opsiwn gorau.
Yn ôl yr ymgyrchwyr dylai ardaloedd penodol gael eu gwarchod rhag y gor ddefnydd o gychod a datblygiadau fel ffermydd gwynt yn y môr.
Yn ôl yr adroddiad dim ond un Ardal Gwarchod Arbennig sy'n bodoli yng Nghymru a Lloegr, sef Bae Ceredigion.
Mae'n ardal lle mae mesurau penodol i ddiogelu'r dolffin trwynbwl.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi clustnodi tair ardal posib ar gyfer gwarchod morfilod, dolffiniaid a sharcod.
Dywedodd Joan Edwards o'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyll: "Mae creaduriaid dan fygythiad, mae yna fwlch mawr yn y polisi o ddiogelu creaduriaid y môr - mae angen gwneud mwy.
Yn ôl yr adroddiad mae'r moroedd o amgylch y DU yn gartref i 29 o rywogaethau o forfilod, dolffin, llamhidyddion a sharcod - ond mae eu niferoedd yn lleihau.
Dywedodd llefarydd ar ran Defra - gweinyddiaeth Amaeth San Steffan: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd morfilod a dolffiniaid - mae'r rhain yn greaduriaid eiconig, ac yn rhan hanfodol o'r ecosystem forwrol.
"Ond maent yn gallu symud dros ardal eang o'r môr, felly oherwydd hyn dyw sefydlu Ardaloedd Diogel ddim o reidrwydd y ffordd gorau i'w diogelu."
Ond yn ol Joan Edwards: "Rydym yn derbyn nad Ardaloedd Diogel yw'r unig ateb, ond maent yn gam cyntaf hanfodol."