35 diwrnod i ddatgelu manylion swyddi parthau menter

  • Cyhoeddwyd
parthau menter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parthau menter yn canolbwyntio ar ddiwydiannau ynni a pheirianneg

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi rhoi 35 diwrnod i lywodraeth Cymru gyhoeddi faint o swyddi sydd wedi eu creu ym mharthau menter Cymru.

Fe gafodd y parthau eu lansio yn 2011, er mwyn hybu cyd-weithio rhwng gwahanol ddiwydiannau.

Roedd Plaid Cymru wedi cwyno i Swyddfa'r Comisiynydd ar ôl i'r llywodraeth wrthod eu cais i ryddhau'r manylion.

Mi allai'r llywodraeth herio'r gorchymyn mewn tribiwnlys.

Dywedodd llefarydd eu bod yn ystyried penderfyniad y comisiynydd cyn ymateb.

Yn y cyfamser, mae penaethiaid y parthau wedi dweud na ddylid cyhoeddi'r ystadegau, gan fydde 'na ddim daioni o ryddhau gwybodaeth sensitif.

'Osgoi sgriwtini'

Mae mwy na 5,000 o swyddi wedi eu creu neu eu diogleu dros gyfnod o ddwy flynedd, ond yn ôl Plaid, mae gan y cyhoedd "hawl i wybod mwy".

Fe ddywedodd llywodraeth Cymru y gallai cyhoeddi manylion unigol i'r parthau "effeithio ar uchelgais llywodraeth Cymru yn hirdymor".

Yn ôl AC Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mae'r llywodraeth wedi bod yn ceisio "osgoi sgriwtini", ac mae'n croesawu penderfyniad y comisiynydd.

"Bron i dair blynedd ers eu lansio, mae'r cyhoedd yn haeddu cael gwybod faint o swyddi sydd wedi eu creu ymhob parth, a faint o fuddsoddiad sydd wedi bod," meddai.

"'Da ni'n edrych ymlaen at dderbyn y wybodaeth honno."