Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ym Môn

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddynes farw wedi gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A5 rhwng Y Fali a Chaergybi.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad mewn ardal sy'n cael ei hadnabod fel Y Cob rhywdro rhwng 23:00 ddydd Sadwrn 31 Mai a 00:14 fore Sul 1 Mehefin.
Fe aeth y gwasanaethau brys â'r ddynes i'r ysbyty lle bu farw.
Dywedodd Sarjant Leigh McCann o'r Uned Troseddau ar y Ffyrdd bod plismyn yn apelio am dystion.
"Rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd, unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd Citroen C3 du yn cael ei yrru yn yr ardal rhwng yr amseroedd hyn, i gysylltu â ni," meddai.
"Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â theledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd i gysylltu.
"Mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes ar yr adeg anodd iawn yma."