'Sioc a siom' colli gwerth miloedd o offer yng Ngheredigion

Ym mis Mai cafodd gwerth miloedd o offer ei ddwyn o sied Dafydd Jones yn Ffair Rhos, yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Roedd darganfod bod gwerth miloedd o bunnau o offer wedi cael ei ddwyn o'i sied yn Ffair Rhos yng Ngheredigion yn sioc ac yn "siom ofnadw'" i Dafydd Jones.
Mae Dafydd, 27, yn fecanic yn Aberaeron ac yn gwbl ddibynnol ar yr offer gafodd ei ddwyn.
Mae ffigyrau newydd yn dangos bod cynnydd o 27% wedi bod yn yr achosion o ddwyn yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn 2024.
"Mae prynu'r holl stwff a gafodd ei ddwyn yn mynd i gostio rhwng £3,000 a £4,000 i fi," meddai Dafydd wrth Cymru Fyw.
"Maen nhw'n tools fi wedi prynu ar hyd y blynydde ers yn brentis.
"Fi angen y rhan fwyaf ohonyn nhw i fy ngwaith fel mecanic ac o'dd lot o'r lleill o werth personol - pethe ges i pan 'nes i etifeddu'r ffarm."
'Ffaelu stopio meddwl am y peth'
Dywed Dafydd Jones ei fod wedi sôn am yr hyn a ddigwyddodd wrth yr heddlu a bod yna eraill yn yr ardal wedi cael lladradau yn ddiweddar.
"Mae e wedi cael effaith fawr arna i, a fi ffaelu stopio meddwl am y peth - fi angen y tools 'ma bob dydd ar gyfer trwsio ceir," meddai.
"O'dd clo ar y drws. Digwydd mynd i nôl rhywbeth ar gyfer y clwb ffermwyr ifanc 'nes i a gweld bod rhywun wedi torri mewn.
"Bob tro nawr fi'n mynd i edrych ar y defaid neu mynd mas i siopa fi'n meddwl 'odi'r sied yn saff?'
"Mae'n beth ofnadw' i ddigwydd - yn enwedig pan chi wedi bod yn safio arian i brynu offer."
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
Ychwanegodd Dafydd fod "y cynnydd yn nifer y lladradau yn bryderus."
"Ma' lot o ddwyn yng nghefn gwlad ar y funud - fi'n gwybod am quadbikes sydd wedi cael eu dwyn a lot o offer fferm.
"Mae pobl eraill fi'n nabod yn gweud bod nhw ofan hefyd.
"Fi'n gwybod bod e'n anodd i'r heddlu fonitro popeth sy'n digwydd ond mae angen cymryd troseddu yng nghefn gwlad fwy o ddifri'."
'Newid i system gofnodi'
Mae ardal Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys.
Dywedodd llefarydd mai'r dull o gofnodi y troseddau sy'n rhannol gyfrifol am y cynnydd yn nifer y troseddau yn 2024 - ac mai 26% oedd y cynnydd go iawn, nid 27% fel adroddwyd gyntaf.
"Ry'n ni'n gwbl ymrwymedig i ymchwilio i ladradau mewn eiddo," ychwanegodd llefarydd.
Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, dangosodd ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mai ym Mhowys oedd y cynnydd mwyaf mewn lladradau o eiddo - cynnydd o 81% yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2024.
Yng Ngheredigion, roedd y data yn dangos cynnydd o 60% ac yn Sir Gaerfyrddin roedd y cynnydd yn 50%.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi ymrwymo i ymchwilio i ladradau mewn eiddo
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Er ei bod hi'n anodd gwneud sylw ar yr union reswm dros y cynnydd mewn adroddiadau o ladradau, rydyn ni'n ymwybodol bod newid i system gofnodi newydd yn 2023 yn golygu bod cofnod o'r niferoedd yn 2024 fwy na'r hyn ddylai fod.
"Ry'n ni wedi cyflwyno mesurau i gywiro'r ffigyrau ond mae'n bosib nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol."
Mae ffigyrau diwygiedig Heddlu Dyfed-Powys yn nodi mai 26% yw'r cynnydd - sy'n parhau i fod y cynnydd canrannol uchaf yng Nghymru a Lloegr yn 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu eu bod yn "cydnabod yr effaith sylweddol y mae troseddau o'r natur yma yn ei gael ar ddioddefwyr a'r pryder y gall ei achosi i'r gymuned ehangach".
Maen nhw'n annog y cyhoedd i barhau i roi gwybod am droseddau o'r fath.