Adam Jones yw rhedwr dirgel Ras Nos Galan

  • Cyhoeddwyd
Adam Jones

Chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a'r Llewod, Adam Jones, yw rhedwr dirgel ras Nos Galan 2014.

Cafodd y prop 33 oed ei ddewis i "gynrychioli ysbryd" Guto Nyth Brân sydd wedi ysbrydoli'r ras bum cilomedr o amgylch Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf.

Adam roddodd dorch ar fedd Griffith Morgan (Guto Nyth Brân) yn Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno ac aeth i wasanaeth coffa yn yr eglwys cyn dechrau'r ras.

Guto Nyth Brân

Rhedwr o'r 18fed ganrif oedd Guto. Mae sôn amdano'n cael gafael ar adar wrth iddyn nhw hedfan ac yn rhedeg saith milltir i Bontypridd ac yn ôl cyn i'r tegell ferwi.

Rhedodd nifer o rasys am arian mawr ond, yn sgil ei lwyddiannau, roedd llai a llai yn ei herio.

Pan oedd yn 37 rhedodd un ras arall wedi iddo gael ei herio gan redwr arall, "Tywysog" Bedwas.

Roedd y ddau yn cystadlu am wobr o 1000 gini (£1050) am redeg y 12 milltir rhwng Casnewydd yn Sir Fynwy i Eglwys Bedwas ger Caerffili.

Am y rhan fwyaf o'r ras roedd Guto Nyth Brân ymhell tu ôl i "Tywysog" ond trechodd ei wrthwynebydd gyda sbrint i fyny'r allt tua diwedd y ras.

Bu farw yn fuan wedyn ym mreichiau ei gariad "Siân o'r Siop" wedi iddo gael ei guro ar ei gefn i'w longyfarch am ei lwyddiant.

'Profiad unigryw'

Dywedodd Adam: "Mae bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn yn ardderchog. Mae hud Ras Nos Galan yn arbennig iawn.

"Mae hi wedi bod yn bleser cymryd rhan yn y digwyddiad, gan ddilyn yn ôl-troed rhedwyr dirgel y gorffennol.

"Roedd hi'n braf gweld canol y dref mor brysur, gyda phobl o bob oed yn mwynhau profiad unigryw Ras Nos Galan. Does dim digwyddiad unman yn y wlad sy'n cymharu â hwn ar Nos Galan."

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan: "Mae Adam wedi profi gyrfa rygbi lwyddiannus sy'n golygu ei fod wedi teithio ar draws y byd.

"Mae'r ras yn enwog ar draws y byd, felly mae hi'n gwbl addas bod cawr o'r byd rygbi yn ymuno â ni i ddathlu bywyd cawr Cymreig arall, y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân."

Uchafbwynt

Cychwynnodd y digwyddiad gyda rasys y plant cyn y ras bum cilomedr ar gyfer oedolion a'r ras elit.

Uchafbwynt y noson oedd Adam yn cario'r fflam o lan bedd Guto yn Eglwys Sant Gwynno i ganol y dref, bedair milltir i ffwrdd.

Mae'r rhedwyr dirgel blaenorol yn cynnwys Alun Wyn Jones, Linford Christie, John Hartson, James Hook, Nicole Cook, Jamie Roberts, Martyn Williams, Shane Williams a Dai Greene.