Torri coed llarwydd wedi eu heintio

  • Cyhoeddwyd
Coedwig Cwmcarn

Bydd hyd at 150,00 o goed llarwydd yng Nghoedwig Cwmcarn yng Nghaerffili yn cael eu torri wedi iddyn nhw gael eu heintio gyda chlefyd o'r enw phytophthora ramorum.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai bwriad torri'r coed yw ceisio arafu pa mor gyflym mae'r clefyd, sy'n lladd y coed wedi iddyn nhw gael eu heintio, yn lledaenu.

Mae'r gwaith paratoadol wedi cychwyn, cyn ymgymryd â'r gwaith o dorri'r coed.

Bydd y ffordd drwy Goedwig Cwmcarn yn cael ei chau tra mae'r coed yn cael eu torri, ond bydd y ganolfan ymwelwyr a'r cyfleusterau eraill yn parhau ar agor.

Mae tua 6.7 miliwn o goed llarwydd yng Nghymru wedi eu heffeithio gan y clefyd.