Cartref parhaol i archif ffotograffydd
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r ffotograffydd Cymreig Philip Jones Griffiths wedi dweud eu bod wedi'u bodloni fod ei archif wedi ennill cartref parhaol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar ôl blynyddoedd o drafodaethau dros ddyfodol ei waith.
Agorodd arddangosfa sy'n cynnwys ei luniau eiconig o'r rhyfel yn Fietnam yn Oriel Gregynog y llyfrgell yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol nawr yn gartref i oddeutu 150,000 o sleidiau, a 30,000 o luniau Philip Jones Griffiths.
Cafodd Philip Jones Griffiths ei eni yn Rhuddlan yn 1936 ac fe ddechreuodd ei yrfa drwy weithio i'r Guardian a'r Observer, cyn teithio i Fietnam yn 1966 gydag asiantaeth luniau Magnum.
Fe gafodd y lluniau eu cyhoeddi yn y llyfr Vietnam Inc. yn 1971, ac mae rhai yn dweud fod lluniau Griffiths wedi cyflymu'r broses o ddod a'r rhyfel i ben.
Fe aeth ymlaen i dynnu lluniau ledled y byd, cyn iddo farw o ganser yn 2008.
"Wrth ein bodd"
Dwedodd ei ferch Katherine Holden: "Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r arddangosfa yma. Mae'r trefnwyr wedi llwyddo i ddangos ei waith mewn ffordd brydferth iawn, ond hefyd maen nhw wedi cipio darn bach o'i gymeriad hefyd.
"Roedd hi'n emosiynol iawn i ni i ddod yma i weld y gwaith. Roeddwn ni mewn dagrau.
"Cymro balch iawn oedd e, ac roedd e am i'w waith aros yng Nghymru. Mae'r bartneriaeth gyda'r Llyfrgell Genedlaethol yn bopeth roeddwn ni'n gobeithio amdani.
"Mae'r arddangosfa yma yn ganlyniad o broses o drosglwyddo cannoedd o focsys o'i gartref yn Efrog Newydd, a (staff y llyfrgell) yw'r rhai sydd wedi mynd trwy bopeth, ac wedi darganfod deunydd arbennig. Fedrwn ni ddim bod yn fwy bodlon gyda hyn i gyd."
Cynulleidfa ehangach
Ychwanegodd merch arall y ffotograffydd, Fanny Ferrato, fod y ddwy ohonynt yn gobeithio denu cynulleidfa ehangach i waith ei thad.
"Efallai gallwn ni gynnal arddangosfa sy'n teithio trwy Gymru? Ry'n ni yn sicr am i fwy o ysgolion ddod i weld yr arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n ddechreuad arbennig ac rydyn ni'n falch iawn, iawn."
Dwedodd Katherine Holden fod y Llyfrgell Genedlaethol yn lleoliad perffaith i'r archif. "Fedrai ddim meddwl am unman fwy diogel. Breuddwyd Philip oedd i ddatblygu canolfan y gall myfyrwyr fynychu, ac mae'n rhywbeth efallai byddwn ni'n parhau i ystyried. Ond yn nhermau cartref parhaol y gwaith, rydyn ni'n fodlon iawn."
Agoriad swyddogol
Yr Arglwydd Dafydd Wigley agorodd yr arddangosfa newydd. Fel cyn-lywydd y Llyfrgell, roedd yn allweddol wrth drafod symud casgliad Philip Jones Griffiths i Aberystwyth.
"Dwi'n credu ei freuddwyd oedd i gael fferm hanner ffordd i fyny'r Wyddfa ble y gallai pobl ddod i ddysgu am ffotograffiaeth, ac am ei waith.
"Doedd hynny ddim yn ymarferol, ond y peth nesa i wneud oedd sicrhau fod y casgliad mewn dwylo diogel yma yng Nghymru. Yn wreiddiol roedd yna ychydig o amheuaeth ynghylch os oedd hi'n addas i'w chadw mewn llyfrgell neu amgueddfa, gyda'r syniad y gall pethau gael eu claddu neu eu cuddio.
"Ond unwaith y gwelodd ei ferched ac ymddiriedolwyr ei sefydliad y gallu a'r sgiliau sydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol, fe welon nhw mai dyma oedd y lle gorau i'r gwaith."
Yn wreiddiol roedd merched y ffotograffydd wedi cynnal trafodaethau gyda Phrifysgol Bangor i weld os byddai modd defnyddio rhan o adeilad newydd Pontio ar gyfer y casgliad, cyn ymrwymo i'r Llyfrgell yn Aberystwyth.
Caerdydd nid Aberystwyth?
Mae un o hen ffrindiau Philip Jones Griffiths, y ffotograffydd David Hurn, yn parhau i deimlo'n amheus am y penderfyniad i leoli'r casgliad yn Aberystwyth.
"Mae'n hawdd iawn i unrhyw waith gael ei golli neu ei anghofio. Yn fy marn i mae'n drychinebus i weld eich archifau yn mynd rhywle ble does neb yn gweld y gwaith.
"Mae'n bwysig, yn achos Philip, bod - rhywle - yn gartref i o leiaf 500 o'i luniau gorau.
"Dwy awr yn unig yw'r siwrne ar y trên o Lundain i Gaerdydd, ac os oedd gennym ni'r gwaith yng Nghaerdydd fyddai pobl sydd â diddordeb yn ffotograffiaeth yn gallu teithio yna ar y trên. Fe fyddan nhw'n gweld gwaith person arbennig o Gymru, a dyna y dylai Cymru wthio amdano."
Ychwanegodd Mr Hurn fod Philip Jones Griffiths yn dal i ennill clod rhyngwladol yn ei faes.
"Os ydych yn siarad gydag unrhyw ffotograffydd yn America neu Awstralia, fydden nhw wedi clywed am Philip Jones Griffiths. Prin yw'r artistiaid Cymreig sy'n llwyddo i wneud hynny, ac rwy'n credu ei fod yn haeddu clod fel un o'r ffotograffwyr gorau erioed."
Mae'r arddangosfa Philip Jones Griffiths i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth hyd at 12 Rhagfyr eleni.
Mae modd gweld engrheifftiau o'i luniau ar oriel BBC Cymru Fyw drwy glicio yma.