Canfod corff wrth chwilio am ddyn 75 oed yn Afon Conwy

Bryan PerryFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad bod corff wedi ei ganfod yn fuan wedi i'r heddlu apelio am help i ddod o hyd i Brian Perry

  • Cyhoeddwyd

Mae timau achub wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn yn ei 70au aeth goll wrth fynd â'i gi am dro ger Afon Conwy.

Fe gafodd Brian Perry ei weld ddiwethaf tua 16:30 brynhawn Sadwrn ger pentref Trefriw, ger Llanrwst.

Roedd wedi bod yn cerdded gyda'i wraig a'u ci ger Ffordd Gower, ardal sydd wedi gweld llifogydd sylweddol wedi Storm Bert.

Yn ardal Ffordd Gower y cafodd y corff ei ddarganfod ddydd Sul.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru nad yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu Mr Perry, sy'n cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, wedi cael gwybod.

Bu'r heddlu, Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru a'r tîm chwilio tanddwr rhanbarthol yn archwilio'r afon ers i Mr Perry fynd ar goll.

Gan ddiolch yr holl asianaethau fu'n rhan o ymgyrch dan "amodau anodd iawn", dywedodd y Prif Arolygydd Simon Kneale o Heddlu'r Gogledd bod y gymuned leol hefyd wedi cefnogi'r timau achub.

Ychwanegodd: "Mae ein meddyliau gyda'r teulu ar yr adeg anodd yma ac maen nhw wedi gofyn am i'w preifatrwydd gael ei barchu."