Pêl-rwyd: 'Dechrau gwych' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pel rwyd

Mae hyfforddwraig tîm pêl-rwyd merched Cymru Trish Wilcox wedi dweud fod y fuddugoliaeth o 59-52 dros Ffiji yn "ddechrau gwych" i ymgyrch Cwpan Pêl-rwyd y Byd.

Yn ystod ail chwarter y gêm fe osododd Cymru seiliau cadarn ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn tîm sydd un safle'n uwch yn rhestr detholion y byd.

"Roeddwn i'n falch iawn o'r ffordd y gwnaeth y merched gynyddu dwyster y chwarae a gwthio ymlaen yn yr ail hanner", meddai Wilcox.

"Fe ddaeth Ffiji'n ôl ond fe wnaeth y merched barhau gyda'u prosesau a dal ymlaen am y fuddugoliaeth."

Fe wnaeth Wilcox ganmol "perfformiad cyflawn" yn Sydney, Awstralia ddydd Gwener yn erbyn detholion uchaf y grŵp, gan roi clod arbennig i'r ymosodwr gôl Emma Thomas.

"Perfformiad anhygoel"

"Fe saethodd hi 100% - 28 allan o 28 - felly mae hyn yn berfformiad anhygoel ganddi", ychwanegodd. Mae Cymru yn yr wythfed safle yn y byd ar hyn o bryd.

"Roedden ni'n gwybod y byddai'n agos ac yn gystadleuol yn erbyn Ffiji ond roedden ni'n hyderus o'r hyn y galle ni ei wneud yn eu herbyn.

"Mae'n anferth o ran morale a hyder. Fe gawson ni wersyll da yn Tasmania gan ennill dwy allan o dair yn ein gemau paratoi, felly mae'n wych i barhau gyda'r momentwm yna.

"Yn hynny o beth mae'r fuddugoliaeth wedi gwneud gwahaniaeth anferthol."

Byddai dod yn y ddau safle uchaf yn Grŵp D, gyda gemau yn erbyn Zambia ac Uganda i ddilyn, yn golygu y byddai Cymru yn cyrraedd y rownd nesaf.

Fe fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Zambia ddydd Sul, wedi i'r tîm hwnnw golli yn erbyn Uganda o 74-38 ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth.

Fe fydd gêm olaf Cymru yn y grŵp yn erbyn Uganda ddydd Llun.