'Goddef y glaw i gael yr enfys...'
- Cyhoeddwyd
Mae awtistiaeth yn gyflwr y mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi clywed amdano, ond faint ohonom ni sy'n ymwybodol o'r anawsterau sy'n wynebu pobl sy'n awtistig a'u teuluoedd?
Mae 2- 8 Ebrill wedi ei dynodi yn Wythnos Awtistiaeth, dolen allanol a bydd cyfres o eitemau ar Bore Cothi, BBC Radio Cymru, gyda theuluoedd yn rhannu eu profiadau. Bydd rhaglen ddogfen Byd Awtistiaeth hefyd yn cael ei darlledu ar nos Wener, 8 Ebrill.
Ymhlith y cyfranwyr mae Siwan Head o Lanfair Caereinion. Mae hi wedi sgwennu am awtistiaeth ei mab Jonathan, sy'n 10 oed, i Cymru Fyw:
Arwyddion cynnar
Cafodd Jonathan ei eni ym mis Tachwedd 2005 ac yn wahanol i'r stereoteipiau nodweddiadol o awtistiaeth, roedd yn faban hapus, cariadus oedd yn cysgu ac yn bwydo'n dda. Cyrhaeddodd ei holl gerrig milltir ar amser.
Mae'n debyg i'r arwyddion cyntaf o awtistiaeth ymddangos pan yr oedd Jonathan tua 18 mis i ddyflwydd oed.
Efallai mod i'n mynd trwy gyfnod o wadu neu'n rhy brysur i roi gormod o ystyriaeth i'r arwyddion hyn, yn enwedig gyda babi arall ar y ffordd, ond fy ngŵr Jon ac aelodau eraill y teulu sylwodd gyntaf.
Un o'i hoff bethau oedd agor a chau drysau gan edrych ar yr onglau arbennig ac yna eu clepio ar gau, cydbwyso cadeiriau, rhoi llwyau mewn rhesi yn ôl trefn eu maint a'u cyfrif yn ddi-baid. Nid chwarae confensiynol o bell ffordd ac roedd cyflwr ein drysau a'n cadeiriau yn dioddef trwy ei arbrofion!
Yn dair oed, byddai'n gwneud jig-sos maint 75 darn heb prin edrych ar y llun ac yna ei droi i gwblhau'r ochr cardfwrdd.
Er ei fod yn hoff iawn o bobl a phlant bach eraill, ni wyddai sut i chwarae gyda nhw a byddai'n rhoi cwtsh fel ffordd o gysylltu - rhyw chwarae ochr yn ochr a wnâi sy'n arwydd o'r diffyg ymwneud yn gymdeithasol ag eraill.
Anodd derbyn
Er iddo ddechrau dysgu geiriau yn ddigon rhwydd, ni lwyddodd erbyn ei ben-blwydd yn ddyflwydd oed i ddechrau cyfuno geiriau i greu brawddegau syml i fynegi dyheadau, i wneud sylwadau - yr anhawster gyda chyfathrebu cymdeithasol a gweld y bwriad i gyfathrebu ag eraill.
Erbyn hyn, roedd Jonathan yn yr ysgol feithrin a dyma'r cyfnod pan sylweddolais ei fod ychydig yn wahanol i'w gyfoedion. Dydy'r sylweddoliad hwnnw byth yn hawdd, mae'n ingol - doeddwn i ddim eisiau derbyn ar y pryd bod fy machgen bach penfelen yn awtistig ac iddo gael ei ddiffinio gan label.
Dydyn ni dal ddim eisiau i awtistiaeth ddiffinio Jonathan yn llwyr ychwaith er ei fod yn rhan annatod ohono. Unwaith y byddwch yn cyflwyno eich plentyn i fyd cymdeithasol a disgwyliadau addysgol yr ysgol, rydych yn gadael noddfa eich cartref ac mae'r gwahaniaethau awtistig yn dod yn amlycach.
Yn fuan wedi hynny, dechreuodd y broses o gael ein cyfeirio at bobl broffesiynol - therapyddion iaith, seicolegwyr addysg, athrawon cynradd, therapyddion o bob math dan haul - dyma ni ar y daith awtistig, roller coaster yn wir a'm mhen a'm hemosiynau yn chwyrlïo'n aml.
Roedd cael diagnosis yn rhyddhad mewn un ystyr oherwydd i ni gael atebion am pam yr oedd Jonathan yn gweld ac yn ymwneud â'r byd mewn ffordd wahanol - wedi'i wifrio'n wahanol fel maen nhw'n ei ddweud er bod hynny'n swnio braidd fel robot!
Chwilio am fai
Bues yn beio fy hunan cymaint fel Mam; mae hyn, mae'n debyg, mor naturiol a dwi dal i'w wneud i raddau weithiau - oedd 'na rywbeth nad oeddwn yn ei wneud yn iawn? Cyfnodau o feichio crio a meddwl beth fyddai dyfodol Jonathan, a fyddai byth yn annibynnol ac yn cael bywyd arferol?
Yr unig ffordd i ddisgrifio hyn yw fel ton o wewyr a cholled sy'n eich taro'n ddisymwth mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol.
Gorfod ildio iddo, cloi eich hunan ymaith a gadael iddo lifo drosoch nes i chi deimlo'n well o'r newydd, fel rhyw fath o gatharsis. Rydych yn teimlo mor wahanol ac unig weithiau yn y sefyllfaoedd cymdeithasol hyn a'r confensiynol fel ergyd i'ch wyneb ar y cychwyn. Gofyn y cwestiwn bythol hwnnw sy'n eich gwneud yn hunandosturiol ac yn hunanol ar adegau - pam ni?
A pham teimlo colled, oherwydd mae eich plentyn dal yma yn fyw ac yn iach, dim ond yn wahanol.
Wyddoch chi fawr ddim am y cyflwr, felly dyma ddechrau ar y darllen di-baid, gwneud cyrsiau, rhoi cynnig ar bob math o therapi, bron mewn ymgais am ryw iachâd. Ond does dim iachâd a does dim angen trwsio rhywun, maen nhw'n grêt fel maen nhw ac yn haeddu parch - cymdeithas sydd angen newid, a diolch byth fod pethau'n symud ymlaen.
Llwybr troellog
Yr hyn fu'n help mawr i mi oedd dod i adnabod rhieni eraill yn yr un sefyllfa - doeddech chi ddim yn teimlo mor unig a hunandosturiol felly yng nghanol môr o normalrwydd, beth bynnag fo hynny.
Mae clywed profiadau teuluoedd eraill yn rhoi llawer mewn persbectif ac yn gwneud i chi gyfrif eich bendithion.
Mae awtistiaeth yn lwybr troellog ac rydych yn gorfod ymdrechu'n galed iawn a dysgu'n gyson fel rhieni a hynny dan flinder llethol gan fod awtistiaeth yn gosod hyd yn oed mwy o ofynion arnoch na'r arfer.
Rydych yn brwydro'n gyson yn erbyn diffyg dealltwriaeth, empathi a charedigrwydd sylfaenol weithiau ac mae ambell sylw ansensitif neu ddiffyg dealltwriaeth fel gwayw i'r galon ac yn gadael craith na ddiflannith yn hawdd.
Mae'n gallu rhoi straen aruthrol arnoch chi fel rhieni ar daith sydd ddigon anodd beth bynnag. Ond rhaid defnyddio hyn fel llwyfan i newid meddylfryd pobl am awtistiaeth a byddwch yn magu croen caletach fel rheino!
Peidio â mynd i'ch cragen yn ormodol yw'r ffordd gan fod yn agored a cheisio cynnwys eich plentyn ym mhob peth y gallwch er mwyn i bobl ddeall mwy.
Rydym wedi ymdrechu i gynnwys Jonathan ym mhob peth a wnawn heb gilio'n ormodol a, thrwy hynny, mae Dafydd ei frawd wedi gallu parhau i gymryd rhan ac mae Jonathan wedi gallu cael ei gynnwys yn ei gymuned gan feithrin cyfeillgarwch gyda chyfoedion yn ei ffordd fach ei hunan.
Plant rhwystredig, nid plant drwg
Rydym mor ddiolchgar fod ganddo berthynas mor agos gyda'i frawd bach, Dafydd, a'u bod yn gymaint o ffrindiau. Diolch byth nad yw'n cael ei boenydio gan y tantrums awtistig, sy'n cael eu hachosi yn aml gan anawsterau synhwyraidd a rhwystredigaeth o beidio gallu cyfathrebu'n effeithiol.
Rhaid i bobl ddeall nad plant drwg yw'r rhain pan fyddan nhw yn profi meltdown o'r fath, mae rheswm dros bob ymddygiad, mae'n ffordd o gyfathrebu am eu hanawsterau a rhaid gwrando'n dawel a pheidio beirniadu.
Gallu sgwrsio'n ddidrafferth a phrosesu ei iaith yn ddigon cyflym yw un o brif anawsterau Jonathan er ei fod yn ddwyieithog, ond fel y mae'n datblygu mae'n dod i weld yr angen i rannu sylw a defnyddio ei iaith.
Mae ganddo ei ddoniau arbennig hefyd y mae angen eu dathlu fel unrhyw blentyn ac er nad ydym yn hoffi gorbwysleisio'r rhain, mae'n bwysig ein bod yn cael cyfle i'w trafod weithiau. Mae'r dywediad "more than meets the eye" yn hollol briodol i bobl awtistig yn aml iawn.
Mae Jonathan wrth ei fodd yn bod yn greadigol ac ymarferol - tynnu llun, gwnïo, arbrofi, coginio ac ati. Mae lliwiau a bod yn weledol yn bwysig iawn iddo.
Byw yn y foment
Mae mathemateg a gwyddoniaeth yn gryfder mawr iddo a gall ateb cwestiynau anodd iawn, ar lefel ysgol uwchradd ar yr iPad adref ar bynciau nad yw erioed wedi derbyn gwers arnyn nhw. Diolch byth ei fod wedi'i eni yn oes y cyfrifiadur!
Ni wyddwn a fydd Jonathan byth yn ymwybodol o'i ddoniau ac yn gallu eu trosglwyddo i leoliadau eraill, er ei fod yn dangos fflachiadau o hyn.
Dyma sydd mor anodd i bobl awtistig, maen nhw'n byw yn y foment, does ganddyn nhw mo'r ego na'r natur gystadleuol (sy'n rhywbeth ynddo'i hunan i'w edmygu) i allu troi eu doniau yn rhywbeth defnyddiol a buddiol iddyn nhw eu hunain na'r hyblygrwydd meddyliol i'w trosglwyddo i leoliadau eraill o hyd.
Hapusrwydd Jonathan yw'r flaenoriaeth i ni, nid brolio ei ddoniau ac os na wnaiff ddefnydd da o hyn, byddwn yn ei dderbyn. Mae digon o le gennym i weithio ar yr hyn y bydd yn ei weld yn anodd hefyd er mwyn sicrhau y gall fyw'n annibynnol fel oedolyn rhyw ddiwrnod.
'Dyn ni eisiau pwysleisio nad yw diagnosis o awtistiaeth yn golygu fod popeth yn edrych yn ddu nac yn anobeithiol i'r unigolyn hwnnw a phwy a ŵyr beth a ddaw. Mae gymaint o rinweddau i bobl awtistig!
Rydym angen meithrin cymdeithas sy'n fodlon derbyn pobl awtistig a'u gwerthfawrogi fel ag y maen nhw, beth bynnag fo eu doniau a'u hanawsterau. Dyma pam mae'r gwaith o godi ymwybyddiaeth mor bwysig fel bo' pobl awtistig ddim yn cael eu hystyried yn od nac yn llai na phobl gonfensiynol.
Yn y munudau bach tawel hynny o gofleidio gyda Jonathan, i ffwrdd o fwrlwm, confensiynau a disgwyliadau bywyd, rwy'n teimlo dyfnderoedd o gariad, cyd-ddealltwriaeth a heddwch nad oes mo'i debyg.
Braint o'r mwyaf yw cael cyd-deithio gydag un dyn bach mor hapus, cariadus ac enigmatig i'n harwain.
Er gwaetha'r cyfnodau anodd o beidio derbyn a gwadu'r cyflwr, rhaid cofleidio'r byd newydd hwn sydd wedi agor o'n blaenau, derbyn ei fod yn anturiaeth wahanol a pharhau'n bositif. Rydym yn parhau i fod yn deulu arferol er bod awtistiaeth wedi dod i'n rhan!
Gallwch glywed rhagor o hanes Siwan a Jonathan ar wefan Radio Cymru