Parc Cenedlaethol: 'Cader nid Cadair'
- Cyhoeddwyd
Mae trafodaeth ynglŷn â'r enw y dylai Parc Cenedlaethol Eryri ei ddefnyddio ar gyfer un o fynyddoedd mwyaf adnabyddus Cymru, wedi dod i ben.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher penderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gadw at yr enw Cader Idris - yn hytrach na Chadair Idris.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi cynghori mai'r ffurf 'Cadair' ddylai gael ei ddefnyddio o ystyried arwyddocâd cenedlaethol y mynydd.
Ond gallai arwyddion yn yr ardal barhau i gynnwys y gair 'Cadair'.
Cododd y mater ym mis Ebrill, pan gyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynlluniau i ddangos y ffordd i 'Gadair Idris' yn hytrach na 'Chader Idris' - sef yr enw sy'n tueddu i gael ei ddefnyddio'n lleol.
Cytunodd cynghorwyr lleol i'r arwyddion gyda'r gair 'Cadair' - ond cafodd ei nodi mai 'Cader' oedd yr enw'n lleol.
'Trafodaeth fywiog'
Yn hanesyddol, mae'r enw Cadair Idris wedi cael ei ddefnyddio gan y parc cenedlaethol, ond yn 2008 fe ddechreuodd y parc ddefnyddio Cader Idris.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mewn trafodaeth fywiog ym Mhlas Tan y Bwlch, cyfeiriwyd at bwysigrwydd enwau lleol ar leoedd yng nghyd-destun treftadaeth lenyddol ardal. Nodwyd y gellid dehongli "Cader" a "Cadair" fel "amddiffynfa" neu "gaer", neu fel "rhywbeth i eistedd arno" a bod y ddau ddehongliad yn gywir.
"Ond nodwyd hefyd fod yr enw "Cader Idris" yn ffurfio rhan o hunaniaeth yr ardal gyfagos a bod tystiolaeth fod yr enw "Cader Idris" yn cael ei ddefnyddio dros 500 mlynedd yn ôl.
"O ganlyniad, penderfynwyd mai polisi'r Awdurdod fyddai defnyddio "Cader Idris" o hyn ymlaen, a byddai disgwyl i unrhyw arwydd sy'n cael ei osod ar eiddo'r Awdurdod gyd-fynd â'r polisi hwn."
Mae llawer o sefydliadau a busnesau yn ardal Dolgellau yn defnyddio'r enw 'Cader' yn eu henwau, gan gynnwys Ysgol y Gader.