Rhwystro ffyrdd gwledig yn 'atal mynediad pobl anabl at gefn gwlad'

Tractor yn cael ei ddefnyddio i rwystro giâtFfynhonnell y llun, Green Lane Association
Disgrifiad o’r llun,

Dyma enghraifft yn Erwyd o'r math o rwystrau y mae'r Green Lane Association yn poeni amdanyn nhw

  • Cyhoeddwyd

Dyw dyn anabl o'r canolbarth sydd wrth ei fodd yn mynd i gefn gwlad ddim yn gallu cyrraedd rhai mannau am fod rhwystrau anghyfreithlon ar ffyrdd diddosbarth.

Dyna honiad y Green Lane Association – sefydliad sy'n ymgyrchu i warchod hawliau tramwy – wrth iddynt gyhuddo Cyngor Powys o fethu â chadw'r ffyrdd ar agor.

Mae'r gymdeithas yn honni bod "ugeiniau" o lonydd gwyrdd wedi'u rhwystro ym Mhowys, sy'n cyfyngu mynediad i'w haelodau fel Laurence Robins, sydd â sglerosis ymledol (MS).

Dywedodd Cyngor Powys nad ydyn nhw'n cymeradwyo rhwystro ffyrdd yn anghyfreithlon, ond gall atal hynny fod yn gymhleth ac mae angen cydbwyso eu hymateb yn erbyn yr adnoddau sydd ar gael.

Lonydd gwyrdd yw hen lwybrau sydd weithiau yn ganrifoedd oed ac sydd yn aml heb darmac na choncrit ar yr wyneb.

Maen nhw'n cynnwys ffyrdd diddosbarth a chilffyrdd sy'n agored i bob traffig, lle mae hawl gyrru cerbyd modur - oni bai bod awdurdod lleol wedi rhoi cyfyngiad dros dro mewn lle.

Mae angen i gerbydau sy'n eu defnyddio gael treth ffordd, MOT ac yswiriant.

Dywed y Green Lane Association, sydd â 6,000 o aelodau, bod gan Bowys fwy o lonydd gwyrdd na siroedd eraill Cymru, oherwydd y nifer o lwybrau hanesyddol yno gafodd eu defnyddio i gludo da byw i ddinasoedd mawr fel Birmingham a Llundain.

Laurence Robins
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Green Lane Association yn dweud bod pobl fel Laurence Robins yn cael eu hatal rhag cyrraedd rhai mannau

Mae Laurence Robins, 69, wedi bod yn aelod o'r gymdeithas ers dros 10 mlynedd.

Mae ganddo MS ers pan oedd yn 21 oed, ac er ei fod yn arfer mynd ar deithiau cerdded hir yng nghefn gwlad, mae'r clefyd yn golygu nad yw'n gallu gwneud hynny nawr.

Yn hytrach, mae Laurence - sy'n byw ger Aberhonddu - yn mynd i gefn gwlad gyda ffrindiau mewn cerbydau 4x4.

"Dwi wedi bod yn gwneud lonydd gwyrdd ers blynyddoedd," meddai Laurence.

"Mae'n wych mynd allan i gefn gwlad. Mae 'na olygfeydd anhygoel!"

Steve Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae degau o enghreifftiau o lonydd gwyrdd wedi eu hatal ym Mhowys, meddai Steve Morgan

O ben bryn uwchlaw Afon Gwy, dywedodd Laurence na fyddai'n gallu cyrraedd y llefydd mae am fynd iddyn nhw heb ddefnyddio cerbyd 4x4.

"Yn sicr alla i ddim cerdded yno nawr. Chi'n mynd heibio'r llefydd prydferth hyn mewn car, ond dy'ch chi ddim yn gwybod beth y'ch chi'n pasio. Edrychwch ar y golygfeydd," meddai.

Dywed y gymdeithas fod y llefydd y gall Laurence ac aelodau eraill fynd iddyn nhw yn aml wedi'u cyfyngu gan rwystrau ar ffyrdd diddosbarth.

Rhai am resymau naturiol fel coed wedi cwympo, ond eraill, medden nhw, wedi'u rhwystro yn fwriadol.

'Cadwyno'r giatiau a rhoi tractor o'u blaen'

Soniodd Steve Morgan o'r gymdeithas am un enghraifft o ffordd ger Erwyd.

Dywedodd fod rhwystr ar y ffordd wedi cael ei adrodd sawl gwaith i adran briffyrdd Cyngor Powys.

"Mae hon yn ffordd hynafol," meddai Mr Morgan.

"Mae'r [tirfeddiannwr] wedi penderfynu - yn hollol y tu hwnt i'r gyfraith - nad yw hon yn ffordd ddiddosbarth mwyach.

"Mae wedi cadwyno'r giatiau yn y gorffennol, ac wedi rhoi tractor o flaen giât arall sy'n ein hatal.

"Dyma un enghraifft o lawer o'r math yma o beth - mae 20 neu 30 o'r rhain ledled y sir."

Honnodd Steve Morgan fod y tirfeddiannwr wedi torri'r Ddeddf Priffyrdd, gan gyhuddo Cyngor Powys hefyd o fethu â sicrhau bod y ffordd yn cael ei chadw ar agor.

Cysylltodd BBC Cymru â'r tirfeddiannwr am ymateb ond gwrthodwyd ceisiadau am gyfweliad.

Ffordd wedi'i atal yn ErwydFfynhonnell y llun, Green Lane Association
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd fod rhwystr ar y ffordd yn Erwyd wedi cael ei adrodd sawl gwaith i adran briffyrdd Cyngor Powys

Mae Griff Evans yn yrrwr 4x4 profiadol, sy'n hyfforddi saith tîm achub mynydd i yrru ar dir garw.

Mae hefyd yn gwirfoddoli gydag Ymatebwyr 4x4, sy'n helpu'r gwasanaethau brys i fynd i lefydd anghysbell ac yn cludo'u staff i'r gwaith mewn tywydd garw.

Yn ôl Griff, mae gan y gymdeithas lawer o aelodau anabl sy'n mwynhau mynd i gefn gwlad mewn cerbydau 4x4.

"Mae lot o bobl anabl wedi adaptio eu ceir off-road fel bo' nhw'n medru defnyddio nhw, ac mae'n beth da bo' nhw'n gallu mynd allan.

"Mae'r Green Lane Association hefyd yn medru helpu nhw, os nad ydyn nhw'n dreifio wneith un o'r aelodau fynd â nhw.

"Mae'n bechod i ni yng Nghymru golli'r lonydd yma.

"Maen nhw'n lonydd ers adeg Rhufain lot ohonyn nhw, ac mae'n bwysig iddyn nhw gael eu cadw'n agored er mwyn i bobl gerdded, pobl motobeics a phobl sydd â cherbydau [4x4] fel hyn."

Griff Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bechod i ni yng Nghymru golli'r lonydd yma," meddai Griff Evans

Mae gan Gyngor Powys – fel awdurdodau lleol eraill – ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn hawliau'r cyhoedd i gael mynediad at briffyrdd, gan gynnwys ffyrdd diddosbarth.

Mae Adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un heb awdurdod cyfreithiol nac esgus, rwystro llwybr rhydd yn fwriadol ar hyd priffordd mewn unrhyw fodd.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn "cydnabod y pryderon a godwyd gan Gymdeithas y Lôn Werdd" ac yn cydnabod pa mor "rhwystredig y gall fod i bobl ddod ar draws problemau wrth fynd i gefn gwlad".

Ond ychwanegwyd bod rhaid cydbwyso ymateb y cyngor "yn erbyn yr adnoddau sydd ar gael a natur a defnydd y llwybrau dan sylw".

"Yn unol â chanllawiau cenedlaethol a pholisi lleol, rhoddir blaenoriaeth i faterion sy'n ymwneud â diogelwch dros rwystrau sy'n seiliedig ar niwsans, er mwyn sicrhau bod y risgiau mwyaf critigol i fynediad a lles y cyhoedd yn cael eu trin yn gyntaf."

Mewn perthynas â'r rhwystro bwriadol honedig ger Erwyd, dywedodd y cyngor na allai wneud sylw ar achosion unigol, ond dywedodd llefarydd ar ran heddlu Dyfed-Powys fod "hysbysiad adran 137 (Deddf Priffyrdd 1980) wedi'i gyhoeddi mewn ymateb i adroddiad a wnaed am rwystro bwriadol honedig o ffordd yn ardal Erwyd".

"Mae swyddogion lleol yn parhau i fonitro'r sefyllfa."

Cerbyd 4x4 ac aelodau'r Green Lane AssociationFfynhonnell y llun, Green Lane Association
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymdeithas yn dweud ei bod hi'n bwysig cadw'r lonydd hyn ar agor er lles pobl anabl yn gallu mwynhau cefn gwlad

Mae gan y gymdeithas eu mapiau manwl eu hunain sy'n dangos ffyrdd diddosbarth a chilffyrdd sy'n agored i bob traffig, lle mae hawl i yrru cerbydau modur.

Mae'r map hefyd yn dangos y rhwystrau a nodwyd gan aelodau.

Dywed Steve Morgan bod y gymdeithas yn rhwystredig oherwydd diffyg ymateb i'w cwynion.

"Diffyg cyfathrebu gan [adran] priffyrdd Powys yw'r broblem - y neges mae'n ei hanfon yw bod pobl yn cael rhwystro'r lonydd hyn a bod dim goblygiadau i hynny.

"Mae cyfrifoldeb i sicrhau bod y lonydd hyn yn aros ar agor, fel bod pobl fel Laurence a llawer o rai eraill sy'n anabl fel fe, yn dal i gael mynediad i gefn gwlad."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys nad ydyn nhw'n "goddef rhwystro anghyfreithlon ar briffyrdd cyhoeddus".

"Fodd bynnag, gall prosesau gorfodi fod yn gymhleth a chymryd llawer o amser, yn enwedig lle mae statws cyfreithiol llwybrau yn destun dadl.

"Rydym yn gwerthfawrogi ymgysylltiad a dealltwriaeth barhaus y cyhoedd wrth i ni weithio i gynnal mynediad ar draws un o'r rhwydweithiau hawliau tramwy a phriffyrdd mwyaf yng Nghymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.