Allied Bakeries yn torri 53 o swyddi yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
baraFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd 53 o weithwyr yn cael eu diswyddo gan gwmni Allied Bakeries yn eu canolfan yn Saltney.

Fe ddaeth cadarnhad gan y cwmni eu bod wedi penderfynu cau'r safle, sydd yn dosbarthu bara yn y rhanbarth.

Fe gyhoeddwyd y diswyddiadau yn wreiddiol fis yn ôl, ac fe ddaeth y cadarnhad ar ôl i'r cwmni ymgynghori a'r gweithlu.

Mae'r Aelod Seneddol lleol Mark Tami wedi mynegi siom ynglŷn â'r penderfyniad

'Swyddi pwysig'

Dywedodd Mr Tami: "Roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r cwmni wedi newid eu meddwl.

"Doedd e ddim yn ganolfan arbennig o fawr ond roedd y swyddi yn bwysig, ac mae'r cwmni yn enw mawr hefyd.

"Nawr mae'r cwmni yn disgwyl cau'r safle ym mis Tachwedd, rwy'n gobeithio bydd 'na ymdrech fawr i ddod o hyd i swyddi ar gyfer y bobl yn lleol.

"Mae'r ardal yn ffodus gan fod nifer o gyflogwyr o safon uchel yma."