Gordon Anglesea: Nid yr achos cyntaf
- Cyhoeddwyd
Nid yr achos hwn oedd y tro cyntaf i Gordon Anglesea wynebu honiadau o gamdriniaeth yn erbyn bechgyn yn eu harddegau.
Yn yr Uchel Lys yn Llundain yn 1994 fe frwydrodd achos enllib yn erbyn papurau newydd The Observer, The Independent, cylchgrawn Private Eye a HTV mewn cysylltiad â honiadau ei fod wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn rhyw difrifol yng nghartref plant Bryn Estyn.
Bryd hynny, roedd y tri thyst oedd yn honni ei fod wedi eu camdrin gan Anglesea, ac yn sail i amddiffyniad y cyhoeddiadau a HTV, yn rhai gwahanol i'r dynion oedd wedi gwneud y cyhuddiadau yn ei erbyn yn yr achos presennol.
Ar 6 Rhagfyr 1994 dyfarnodd y rheithgor o blaid Gordon Anglesea, ac fe dderbyniodd gyfanswm o £375,000 am yr enllib yn ei erbyn.
Yn dilyn curo'r achos, dywedodd Anglesea: "Mae fy nadleuon wedi eu cyfiawnhau - mae fy enw da wedi ei adfer. Yr arian yw'r rhan amherthnasol yn hyn i gyd. Roeddwn i am adfer a chlirio fy enw da ac rwyf wedi ei gael."
Adroddiad Waterhouse
Daeth Gordon Anglesea dan chwyddwydr yr awdurdodau yn ystod ymchwiliad Syr Ronald Waterhouse i gamdriniaeth mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.
Fe wnaeth yr ymchwiliad hwnnw gostio £13m, gan dderbyn tystiolaeth gan dros 650 o bobl. Cafodd adroddiad terfynol yr ymchwiliad, 'Ar Goll Mewn Gofal', ei gyhoeddi yn 2000.
Roedd pennod gyfan o Adroddiad Waterhouse yn edrych ar 'Achos Gordon Anglesea' - ac yn trafod honiadau yn ei erbyn eto am gamdriniaeth honedig.
Clywodd y tribiwnlys dystiolaeth fod Anglesea wedi ymweld â chartref gofal Bryn Estyn, a'i fod wedi ei weld gyda dirprwy bennaeth y cartref, Peter Howarth. Cafodd Howarth ei garcharu am 10 mlynedd am gamdrin plant yn 1994.
Dywedodd adroddiad Waterhouse: "Rydym wedi cael ein gadael gyda'r teimlad o gryn anesmwythyd am wrthodiadau niferus Anglesea nad oedd ganddo unrhyw atgof o Peter Howarth."
Ond ychwanegodd yr adroddiad na fyddai'r fath anesmwythyd neu anghrediniaeth am y rhan yma o dystiolaeth Gordon Anglesea "yn cyfiawnhau'r darganfyddiad ei fod wedi cyflawni camdriniaeth rhyw heb brawf positif a dibynadwy."
Wrth ystyried y dystiolaeth am gamdriniaeth honedig Gordon Anglesea ddaeth gerbron yr ymchwiliad, ychwanegodd yr adroddiad: "Wedi dwys ystyried yr holl dystiolaeth yma yn ofalus iawn nid ydym yn gallu canfod fod yr honiadau o gamdriniaeth rhyw yn erbyn Gordon Anglesea wedi eu profi, neu na fyddai'r rheithgor yn yr achos enllib wedi dod i gasgliad gwahanol petai nhw wedi clywed y dystiolaeth fwy cyflawn sydd wedi ei roi ger ein bron."
Daeth yn amlwg yn ystod ymchwiliad Waterhouse fod Heddlu Gogledd Cymru wedi edrych ar dystiolaeth yn erbyn Gordon Anglesea mewn manylder, gan awgrymu ym mis Chwefror 1993 y dylai Gwasanaeth Erlyn y Goron ei erlyn ar sail y dystiolaeth oedd ar gael bryd hynny. Nid oedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cytuno gyda'r awgrym hwnnw.
Ymgyrch Pallial
14 o flynyddoedd ar ôl cyhoeddi adroddiad 'Ar Goll Mewn Gofal', cafodd Ymgyrch Pallial ei sefydlu gan yr Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol (NCA) i ymchwilio i honiadau diweddar o gamdriniaeth hanesyddol yn y system gofal yng ngogledd Cymru.
Gordon Anglesea oedd y 18fed unigolyn i gael ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, ac fe gafodd ei gyhuddo o ymosodiadau anweddus ag un ymosodiad rhyw difrifol yn erbyn un bachgen, ag o ymosod yn anweddus ar fachgen arall.
Fe'i cafwyd yn euog o bedawr cyhuddiad o ymosod yn anweddus - tri ar un bachgen ac un ar un arall - ond yn ddieuog o'r cyhuddiad o ymosodiad rhyw difrifol.
Mae'r euogfarn yn ei erbyn yn benllanw ar 25 o flynyddoedd ers i honiadau ddod i'r wyneb amdano, ac mae wedi dadlau o'r cychwyn ei fod yn ddieuog.
Mae'r euogfarn yn dod 22 o flynyddoedd ers i Anglesea gerdded allan o'r Uchel Lys yn Llundain ar ôl ennill ei achos enllib.
Chafodd Anglesea ddim gadael Llys y Goron yr Wyddgrug yn ddyn dieuog ddydd Gwener, ac fe fydd yn derbyn ei ddedfryd ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth tan hynny, ond dywedodd y Barnwr Geraint Walters wrtho: "Dim ond un ddedfryd all fod yn yr achos hwn, a dedfryd o garchar fydd hynny."