Yr anthemau i gefnogi Cymru

- Cyhoeddwyd
Cwta fis sydd i fynd nes bydd tîm pêl-droed merched Cymru'n cystadlu yn Euro 2025 yn Y Swistir.
I nodi'r achlysur ac ar gais BBC Radio Cymru, mae'r band Adwaith wedi recordio anthem arbennig o'r enw Aros Am y Chwiban, a gafodd ei chwarae gyntaf ar raglen Aled Hughes.
Mae caneuon eraill hefyd wedi'u cynhyrchu yn y gorffennol gan yr orsaf i nodi cystadlaethau chwaraeon arbennig.
Dyma gipolwg ar rai ohonyn nhw:
Candelas - Rhedeg i Paris - 2016
Candelas - Rhedeg i Paris
Nôl yn haf 2016 roedd pawb wedi'u cyffroi wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc.
Pwy all anghofio'r rheolwr Chris Coleman yn arwain ei dîm drwy'r rowndiau rhagbrofol a llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth bêl-droed am y tro cyntaf ers 1958.
Roedd y tîm yn llawn sêr fel Gareth Bale, Joe Allen, Aaron Ramsey, Ashley Williams a Ben Davies.
Llwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gyn-derfynol a cholli o 2-0 yn erbyn Portiwgal, aeth yn eu blaenau wedyn i ennill y gystadleuaeth.
Ond nôl yng Nghymru roedd Candelas wedi rhoi gwedd newydd i'r clasur, Rhedeg i Paris gan yr Anhrefn.
Cafodd y gân ei 'sgwennu yn stiwdio Sain, Llandwrog yn wreiddiol yn 1990 gan Siôn Sebon a Rhys Mwyn ac mae hi'n rhan o albwm Dial y Ddraig.
Band Pres Llareggub a Lisa Jên - Cwm Rhondda - 2017
Band Pres Llareggub a Lisa Jên - Cwm Rhondda
Cafodd yr emyn poblogaidd yma ei recordio gan Lisa Jên a Band Pres Llareggub ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2017.
Roedd Cymru yn paratoi ar gyfer y bencampwriaeth ar ôl gorffen yn ail yn 2016.
Er gwaetha'r brwdfrydedd a'r anthem angerddol, siomedig oedd ymgyrch Cymru'r flwyddyn honno dan ofalaeth Rob Howley.
Fe enillon nhw ddwy gêm yn erbyn Iwerddon a'r Eidal a cholli'r dair arall.
Hogia'r Wyddfa, Band Pres Llareggub a Siddi - Titw Tomos Las - 2018
Hogia'r Wyddfa, Band Pres Llareggub a Siddi - Titw Tomos Las - 2018
Pan ddaeth hi'n amlwg fod y seiclwr Geraint Thomas yn arwain ras y Tour de France yn 2018 fe wnaeth Arwel a Myrddin o Hogia'r Wyddfa ynghyd â Band Pres Llareggub a Siddi recordio fersiwn arbennig o'r gân Titw Tomos Las yn stiwdios Sain.
Dywedodd Arwel Jones: "Fe gyfansoddwyd y gân yn niwedd y 60au yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis.
"Y diweddar Eirlys Pierce gyfansoddodd yr alaw i eiriau T. Llew Jones. Fel rhan o addysg y plant gychwynnodd hi, ond erbyn heddiw mae'n canu clodydd Geraint Thomas."
Mae'n rhaid fod y gân wedi ysbrydoli Geraint Thomas, aeth yn ei flaen i ennill y ras am y tro cyntaf erioed.
Gwilym - Gwalia - 2019
Gwilym - Gwalia
Yn 2019 roedd tîm Cymru'n cystadlu yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.
Ar gyfer y gystadleuaeth fe recordiodd y band Gwilym y gân Gwalia.
Mae eu fersiwn boblogaidd nhw o'r gân boblogaidd O Gymru yn parhau i fod yn rhan o'u set gerddorol mewn cyngherddau hyd heddiw.
O ran Cymru yn y gystadleuaeth, colli oedd eu hanes yn y rownd gyn-derfynol o 19-16 yn erbyn De Affrica.
Yws Gwynedd - Ni Fydd Y Wal - 2021
Yws Gwynedd - Ni Fydd y Wal
Er mai yn 2021 y rhyddhawyd y gân yma, hon oedd anthem Euro 2020 BBC Radio Cymru.
Y rheswm am hynny wrth gwrs oedd effaith y pandemig a'r ffaith fod y gystadleuaeth wedi'i gohirio am flwyddyn.
Mae'r fideo yn cyfeirio at y Wal Goch ac yn dangos Yws fel pêl-droed brwdfrydig yn breuddwydio am chwarae dros Gymru.
Roedd y gystadleuaeth yn un deithiol o amgylch Ewrop, gyda Chymru yn chwarae mewn nifer o wledydd gwahanol gan gynnwys dwy gêm yn Baku, Azerbaijan, Rhufain ac Amsterdam ble gollon nhw yn erbyn Denmarc yn y rownd 16 olaf.
Adwaith - Aros Am y Chwiban - 2025

Adwaith
Mae Adwaith wedi bod yn brysur yn cynhyrchu'r gân yn arbennig ar gyfer ymgyrch Merched Cymru yn Euro 2025.
Roedd Heledd o'r band ar raglen Aled Hughes yn sôn am y broses.
"Naeth e ddod rownd yn eithaf cyflym. Roedden ni eisiau creu rhywbeth oedd yn dathlu llwyddiant," meddai.
Mi fydd Adwaith hefyd yn cael cyfle i berfformio yn ystod yr Euros yn y Swistir ac mae aelodau o'r band hefyd yn gobeithio mynychu rhai o gemau Cymru.
Mae Radio Cymru yn cynnig baner y ddraig goch am ddim i unrhyw un sy'n tecstio eu henw a'u cyfeiriad i 67500, neu drwy yrru WhatsApp i 03703 500 500 gyda'u henw a'u cyfeiriad pan mae'r gân yn cael ei chwarae ar y radio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 Mai 2016
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023