Degawd ers torri record byd rhwng Cymru a Phatagonia
Shân Cothi yn Neuadd Hoodinott
- Cyhoeddwyd
Mae deng mlynedd i'r diwrnod ers i Shân Cothi ac Andreas Evans dorri record byd am ganu deuawd o bellter.
Ar ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC ar 5 Mehefin 2015 fe wnaeth y gantores Shân Cothi, sy'n cyflwyno rhaglen foreuol o ddydd Llun i ddydd Gwener ar Radio Cymru, gydganu'r emyn Calon Lân gyda Andreas Evans a oedd ym Mhatagonia.
Mae 7,000 o filltiroedd rhwng Cymru a Phatagonia, ac i ardystio fod y rheolau wedi'i dilyn yn fanwl, roedd cynrychiolydd o Guinness World Records yn Neuadd Hoodinott yng Nghaerdydd i gadw golwg ar y perfformiad.
Ar ddiwedd yr emyn a'r perfformiad daeth cadarnhad fod record byd wedi'i thorri.
"Er mwyn i'r cydganu swnio'n berffaith ar yr awyr, roedd rhaid cynllunio'n ofalus," meddai Shân:
"Dwi'n cofio canolbwyntio'n arw achos y delay a rhywbeth fel saith eiliad rhwng Neuadd Hoddinott a'r Wladfa ac Andreas.
"Dwi'n cofio'r tensiwn i weld os oedde ni 'di llwyddo - achos oedd e'n cael ei ddarlledu'n fyw, a phan nath y fenyw gyhoeddi yn swyddogol ein bod ni wedi llwyddo - nath y lle ffrwydro.
"Roedd yn brofiad grêt a lot o sbort," meddai.
Dyma fideo o 2015 o'r perfformiad a'r cyhoeddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2024