Etholiad 2026: Beth sy'n bwysig i bobl ifanc Cymru?

gwleidydda
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones o'r podlediad Gwleidydda, gyda Ffion a Maisie o Senedd Ieuenctid Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae llai na blwyddyn i fynd nes y bydd pobl Cymru'n lleisio barn yn Etholiadau Senedd Cymru 2026.

Bydd yr etholiad hwn yn wahanol i etholiadau'r Senedd, Cynulliad gynt, o'r gorffennol am sawl rheswm.

Bydd 96 o aelodau yn cael eu hethol yn hytrach na 60, bydd y ffiniau gwleidyddol yn newid, a bydd yr aelodau'n cael eu dewis mewn ffordd wahanol gan newid i system cynrychiolaeth gyfrannol yn gyfan gwbl

Am yr ail waith yn unig, bydd gan bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau cenedlaethol Cymru.

Felly, beth yw'r materion sydd o bwys i bobl ifanc Cymru?

Ar bodlediaid Gwleidydda gyda Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones, siaradodd Maisie Powell a Ffion Chapple, fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf, am eu blaenoriaethau gwleidyddol.

Mae Gwleidydda ar daith yr haf yma. Mae eisoes wedi ei ddarlledu'n fyw o Eisteddfod yr Urdd eleni, a bydd sgwrs ym Mhabell y Llais, Tafwyl ar ddydd Sul, 15 Mehefin, ac ym Mhabell Cymdeithasau yr Eisteddfod Genedlaethol ar 9 Awst.

Fe siaradodd Cymru Fyw gyda Ffion a Maisie.

podlediad
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanol y dadansoddi ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Daw Maisie o Gaerffili, mae hi'n 17 mlwydd oed ac yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ers mis Tachwedd, 2024.

"Dwi wastad wedi bod â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru, ond mae fy niddordeb wedi cynyddu ers etholiad cyffredinol (Y Deyrnas Unedig) y llynedd.

"Mae gan fy nheulu ddiddordeb, ac yn pleidleisio ag ati, ond falle ddim yn cadw lan gyda phopeth yn y maes."

Daw Ffion Chapple o ardal Aberafan.

"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ystyried beth sydd yn y maniffestos a gweld beth sydd yn cydfynd efo dy syniadau dy hun, a beth hoffwn ei weld yn digwydd yn y dyfodol yng Nghymru.

"I fod yn onest dwi ddim yn clywed llawer o bobl ifanc yn trafod gwleidyddiaeth.

"Does dim llawer o drafod gwleidyddiaeth yn yr ysgol heblaw am y digwyddiadau yn America gyda Trump, gan fod gymaint o drafod wedi bod amdano ar-lein."

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Senedd Cymru... ble fydd rhai o'r Senedd Ieuenctid yn gweithio rhyw ddydd?

Mae Senedd Ieuenctid Cymru'n cynnwys 60 o aelodau rhwng 11 a 18 mlwydd oed.

Mae 40 aelod wedi eu dewis o etholaethau Cymru, ac 20 aelod arall wedi'u hethol gan bobl ifanc o sefydliadau fel Yr Urdd, Barnados Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru.

Rhoi llais i bobl ifanc

Felly, beth sy'n bwysig i bobl ifanc yn ôl Maisie?

"Bod nhw'n cael llais, a bod rhywun ifanc yn gallu ei cynrychioli nhw. Gall gwleidydd yn ei 20au neu 30au gynrychioli ni yn well na'r rhai hŷn efallai.

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig i wleidyddion y Senedd roi Cymru'n gyntaf bob tro.

"Mae trafnidiaeth yn bwysig i fi, a gwella'r cysylltiadau o fewn Cymru - yn arbennig y trenau. Os ti dros 16 ti'n gorfod talu'r un faint ag oedolion, a dwi ddim yn gweld hynny'n deg i fod yn onest."

Dywed Maisie ei fod yn bwysig gwneud mwy i hyrwyddo'r gwaith mae'r Senedd yn ei wneud, a'r dyletswyddau sydd gan y corff.

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig rhoi gwybodaeth i bobl am wleidyddiaeth, ac addysgu nhw bod y cyfle yno iddyn nhw bleidleisio.

"Mae lot o bobl ifanc yn meddwl bod gwleidyddiaeth ddim yn effeithio arnyn nhw, felly dyle fo fod yn y cwricwlwm ysgol i ddysgu'r pethau sylfaenol am wleidyddiaeth iddyn nhw. Ddim yn angenrheidiol am y pleidiau, ond y strwythurau gwleidyddol."

Cyfathrebu

Mae Ffion yn credu bod cyfathrebu mewn ffordd glir ac esbonio dyletswyddau'r corff yn hollbwysig, gan ddefnyddio'r dulliau diweddaraf i wneud hynny.

"Gall llawer mwy gael ei wneud ynglŷn â cheisio cael mwy o bobl i ddeall beth mae'r Senedd yn ei wneud, fel dyddiadau agored a cheisio annog pobl i ddysgu beth sy'n digwydd yna.

"Un o'r unig ffyrdd o gysylltu gwleidyddiaeth â phobl ifanc yw ystyried nhw wrth lunio syniadau maniffesto, a thrwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i apelio iddynt."

Bydd gan Maisie, Ffion a'u cyfoedion lawer i'w hystyried cyn yr etholiadau ar 7 Mai, 2026, ac mae'n argoeli i fod yn flwyddyn hynod ddifyr yng ngwleidyddiaeth Cymru.