AI i ddarogan rhybuddion tywydd yn gynt?

Ffôn symudolFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn y maes deallusrwydd artiffisial (AI) yn ceisio gwella darogan tywydd gyda'r gobaith o rybuddio pobl yn gynt am stormydd.

Mae Sefydliad Alan Turing sy'n arbenigo mewn deallusrwydd artiffisial a chasglu data yn cydweithio gyda'r Swyddfa Dywydd i gyrraedd y nod.

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn golygu fod pobl yn dibynnu fwy ar ragolygon manwl a chywir, yn enwedig mewn sefyllfaoedd pan mae stormydd neu lifogydd.

Roedd Dr Neil Mac Parthalain o adran gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru yn egluro sut mae systemau darogan tywydd wedi bod mewn bodolaeth ers y 1970au, ond fod y dechnoleg heddiw yn llawer gwell.

'Effaith tywydd ar gymunedau'

"Beth rydyn ni'n weld yn barod a be mae pobl ddim falle yn sylwi yw bod Deallusrwydd Artiffisial wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn y rhagolygon tywydd ers y 60au neu 70au, felly dyw e ddim yn unrhyw beth newydd.

"Yr unig beth sydd ganddo ni nawr yw offer bach yn well a mwy o ddata yn y fformat iawn.

"Am fod gallu cael at y data yn gynt y dyddie hyn mae rhagolygon yn gallu bod yn llawer iawn gwell," meddai.

Y dyddiau hyn, mae datblygwyr yn gweithio ar dechnoleg o'r enw efaill digidol.

Mae'r dechnoleg yma yn galluogi'r arbenigwyr i greu modelau tywydd gwahanol, mewn gwahanol amgylchiadau gyda deallusrwydd artiffisial yn darogan y canlyniad.

Dyma'r math o dechnoleg allai fod o fudd mewn sefyllfaoedd eithafol fel stormydd a llifogydd.

Eglurodd Dr Mac Parthalain: "Mae hwn yn fodel o systemau tywydd ac rydym ni'n gallu rhagweld gwahanol scenarios neu fodelu gwahanol scenarios i weld beth fydd canlyniad y scenarios yna.

"Er fod o ddim yn beth newydd, mae offer llawer gwell ganddon ni'r dyddie hyn, ac mae hynny yn gallu gwella'r rhagolygon.

"Mae wastad rhyw fath o ansicrwydd ynglŷn â'r tywydd, ond fi'n credu fod pethau felly yn manteisio ar argaeledd y data yma yn eich ardal leol ac mae hwnna wedyn yn galluogi offer newydd sydd ag AI yn galluogi rhagolwg byr iawn neu leol iawn."

Llyr Griffiths Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyr Griffiths Davies yn gyflwynydd tywydd

Mae Llyr Griffiths Davies yn gyflwynydd tywydd BBC Radio Cymru ac mewn ymateb i'r datblygiadau technolegol newydd, dywedodd:

"Mae technoleg wedi bod yn rhan allweddol o ragweld y tywydd ers blynyddoedd maith. Wrth i'r rhagolygon ddod yn fwy manwl a chywir, mae disgwyliadau pobl wedi cynyddu hefyd.

"Prif bwrpas cyflwynydd tywydd yw dehongli a chyfleu'r rhagolygon mewn ffordd sy'n berthnasol i'r gynulleidfa. Mae hynny'n cynnwys ystyried effaith y tywydd ar bobl, cymunedau a digwyddiadau."

Yn ddiweddar fe gafodd sawl ardal o Gymru eu heffeithio gan lifogydd yn dilyn stormydd garw. Gobaith y gwyddonwyr a datblygwyr y dechnoleg yw i greu meddalwedd sy'n gallu rhagweld yn fwy manwl pa ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio a phryd.

Dywedodd Dr Mac Parthalain: "Mae pawb yn gyfarwydd â rhybuddion yn weddol ddiweddar o ran y tywydd, fel rhai melyn a coch.

"O ran hynny maen nhw yn llawer gwell ac mae hwnna'n mynd nôl i'r efaill digidol ble rydan ni'n gallu modelu gwahanol scenarios a chael gweld pa mor wael fydd scenario os fydd dau system tywydd yn cwrdd â'i gilydd."

Wrth edrych at y dyfodol, dywedodd Llyr Griffiths Davies:

"Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) ddod yn fwy cyffredin, mae nifer o gwestiynau yn codi. A fydd DA yn gallu dehongli'r rhagolygon yn yr un ffordd â chyflwynwyr tywydd? Neu ai ategu at y rhagolygon fydd y dechnoleg? Beth fydd ei allu yn Gymraeg?

"Mae'n rhaid ystyried didwylledd hefyd – tybed beth fyddai ymateb pobl i gyflwynydd tywydd rhithiol? Mae'n bosib y byddai'n dderbyniol ar-lein, ond beth am ar y teledu neu'r radio?"

Pynciau cysylltiedig