Sioe prynhawn Gwener Tudur Owen yn dod i ben

Bydd Tudur Owen yn cyflwyno rhaglen newydd ar BBC Sounds
- Cyhoeddwyd
Mae Tudur Owen wedi cyhoeddi y bydd ei sioe ar brynhawn Gwener yn dod i ben.
Wrth gyflwyno ei raglen fore Sadwrn, dywedodd y bydd yn "canolbwyntio ar raglen fore Sadwrn o hyn ymlaen".
Ac yntau wedi bod i ffwrdd o'r tonfeddi am gyfnod tra'n perfformio'r sioe lwyfan Huw Fyw, fe rannodd fraslun o raglen newydd gyda'i gyd-gyflwynwyr Dylan Meirion a Manon Rogers.
Dywedodd y bydd y rhaglen newydd ar gael ar BBC Sounds ac ar alw i'w lawrlwytho bob pythefnos.
'Tipyn o newid'
Dywedodd Tudur Owen y bydd "tipyn o newid gan ein bod ni'n mynd i ganolbwyntio ar rhaglen bore Sadwrn o hyn ymlaen.
"Fydd hyn yn rhoi amser i ni ddengyd o'r stiwdio a chreu rhaglenni ychwanegol fydd ar gael ar BBC Sounds."
Ychwanegodd ei fod yn "edrych ymlaen cael ail gydio yn y meicroffon ar foreua' Sadwrn yng nghwmni Dyl Mei a Manon, siawns bydd ganddyn nhw sgandals i rannu!"
Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru fod rhaglen Tudur Owen ar brynhawn Gwener wedi "wedi gwneud i ni chwerthin yn uchel am dros 15 mlynedd".
"Mi fydda i'n edrych ymlaen at barhau i ddeffro hefo Tudur, Dyl a Manon ar foreau Sadwrn, ac yn edrych ymlaen at y rhaglen newydd, ecsgliwsif ar BBC Sounds."
Bydd Ifan Davies yn parhau wrth y llyw ar BBC Radio Cymru ar brynhawn dydd Gwener tan ddiwedd yr haf.