Band Cyfarthfa: Un o fandiau pres cyntaf Cymru a'r byd

Band Cyfarthfa yn 1850
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi mai Band Cyfarthfa oedd un o'r bandiau pres cyntaf yn y byd? Cafodd ei ffurfio yng nghanol y 19eg ganrif gan Robert Thompson Crawshay yng Nghastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful.
Teulu Crawshay oedd perchnogion gwaith haearn Cyfarthfa a'u cartref oedd Castell Cyfarthfa.
 hithau'n 200 mlynedd ers gorffen y gwaith o adeiladu'r castell yn 2025, Geraint Lewis sy'n adrodd hanes unigryw Band Cyfarthfa mewn rhaglen arbennig ar BBC Sounds ac fel rhan o dymor Merthyr BBC Cymru.
Dyma flas ar hanes cynnar y band.
Perfformiad Richard Thomas o Myfanwy ar y biwgl allweddog – offeryn gwreiddiol sy'n dyddio i'r 19eg ganrif. Dyma sut byddai wedi swnio yn y band bron i dros 150 mlynedd yn ôl.
Merthyr Tudful a Chastell Cyfarthfa
Heddiw, gallwch ymweld â Chastell Cyfarthfa sy'n edrych i lawr ar hen dref ddiwydiannol Merthyr Tudful. Ac yn amgueddfa'r castell, mae casgliad o offerynnau sy'n dod â hanes Band Pres Cyfarthfa yn fyw.
Mae'n debyg mai curadur yng Nghastell Cyfarthfa ddaeth ar draws yr offerynnau pres o'r 19eg ganrif pan oedd yn clirio atig yn y castell. Pebai hynny ddim yn ddigon o drysor daeth hefyd ar draws chwe chasgliad o lawysgrifau cerddorol.

Offerynnau cerdd a ddefnyddiwyd gan Fand Pres Cyfarthfa, Merthyr Tudful
Dr Marion Loeffler o Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd sy'n egluro sut arweiniodd ddylanwad teulu'r Crawshay a Merthyr Tudful yn y cyfnod at greu'r band pres cynnar.
"Rwy'n dod o'r Almaen yn wreiddiol a hyd yn oed pam o'n i'n 14 a wedi dechrau dysgu Saesneg o'n i wedi clywed am Ferthyr Tudful oherwydd oedd un o'r gwersi yn seiliedig ar y diwydiant haearn a'r diwydiant glo.
"Mae edrychiad gothig Castell Cyfarthfa a sut mae'n edrych i lawr ar y dref yn symbol o bŵer yr haearn-feistri. Maen nhw uwchben y dref, allan o'r mwg a'r tân yn magu eu teuluoedd mewn awyrgylch ychydig yn fwy iachus ond hefyd yn edrych i lawr ar y gweithwyr, ar y gymuned sydd yn creu'r haearn a sydd yn creu'r arian a'r cyfoeth iddyn nhw."

Castell Cyfarthfa
Dechreuodd William Crawshay II, tad Robert Thompson Crawshay ar y gwaith o adeiladu'r castell yn 1824. Ar y pryd, roedd Gwaith Haearn Cyfarthfa yn un o'r gweithfeydd haearn mwyaf yn y byd.
Ychwanegai Dr Marion Loeffler: "Roedd wedi costio yn arian y cyfnod hwnnw £30,000 o bunnoedd a fyddai'n cyfateb i swm anferth heddiw gyda 15 tŵr a 72 o ffenestri yn edrych i lawr ar y dre.
"Mae Cyfarthfa ynghanol parc mawr gyda llyn a thai gwydr lle oeddan nhw'n tyfu coed banana a pinafal, i gyd yn symbol o statws a chyfoeth. Cyfoeth a ddaeth ar gefn y gweithwyr tlawd oedd yn starfio islaw yn y dref.
"Roedd Merthyr yn un o ganolfannau mwyaf cynhyrchu haearn, yn un o lefydd diwydiannol, chwyldroadol Ewrop ac yma datblygwyd technolegau newydd a gafodd ei adnabod wedyn fel 'The Welsh Method'.
"Dyna sut oeddach chi'n cynhyrchu haearn oedd yn hyblyg, oedd yn esmwyth ac oedd yn addas i wneud rheil ar gyfer y rheilffyrdd.
"Fel mae'r diwydiant yn datblygu mae mwy a mwy o haearn yn cael ei gynhyrchu. Erbyn 1830au mae Merthyr yn cynhyrchu 40% o holl haearn Prydain ac mae gweithfeydd Cyfarthfa, Dowlais, Plymouth a Penydarren i gyd ym Merthyr; gweithfeydd haearn mwyaf y byd.
"Erbyn y 1850au, pan oedd y diwydiant haearn yn ei anterth, roedd tua 50,000 o bobl yn byw ym Merthyr Tudful. Mi allwn ni alw Merthyr yn self-made town. Oedd pobl oedd yn starfio o gefn gwlad cymru yn llifo i'r Eldorado newydd yma.
"Oedden nhw yn dod a'i hiaith a'i crefydd gyda nhw felly mi oedd Merthyr Tudful hyd at y 1860au yn hollol Gymreigaidd. Bywyd caled oedd hi yma, cafodd ei ddisgrifio yn 'slum fwyaf Ewrop' gan deithiwr i'r dref."
Sefydlu Band Cyfarthfa
Yn 1840 y cafodd Band Cyfarthfa ei sefydlu'n swyddogol yn ôl datganiad i'r wasg yn y flwyddyn honno.
Prosiect personol oedd hwn i Robert Thompson Crawshay, mab William Crawshay II ac roedd yn ffordd arall o dynnu sylw at statws y teulu.
Mae'n bosib taw cymryd llond dwrn o chwaraewyr pres lleol oedd yn cwrdd mewn tafarn a wnaeth Robert cyn i'w frawd Francis ei gynghori fod yn rhaid iddo gael y band gorau bosib.
Ysgogodd hynny arno i fynd i Lundain i ddenu cerddorion o'r radd flaenaf, er mwyn trawsnewid natur y band yng Nghyfarthfa i fod o safon ryngwladol.

Robert Thompson Crawshay
Daeth yr arweinydd cyntaf, Mr Grattan oedd wedi ei eni ym Merthyr ond wedi chwarae i fand syrcas Wombell oedd yn fand teithiol enwog. Yna cyflogodd gerddor o Ffrainc ac a addysgwyd yn Yr Almaen i wneud y trefniannau cerddorol unigryw.
Erbyn 1846 roedd chwaraewr biwgl eithriadol, Ralph Livsey, wedi disodli'r arweinydd cyntaf ac ef ai fab George ddatblygodd y band i'r entrychion am weddill y ganrif.
Mae'n amlwg bod rhywbeth gwahanol am Fand Cyfarthfa o'r cychwyn. Dyma brynu'r offerynnau gorau ar y farchnad ryngwladol o Vienna a denu'r perfformwyr gorau ac nid amaturiaid.
Cafodd arian dibendraw ei wario ar y band a'r arian hwnnw'n symbol o bwrpas y band sef cynrychioli'r Crawshays yng Nghyfarthfa gan fand preifat.
Roedd y teulu am ddiddanu'r holl ymwelwyr cefnog fyddai'n galw; yn briodasau, dawnsfeydd, sioeau blodau. Roedd y band yno i gyfeilio ac i gryfhau statws a chyfoeth y teulu.

Band Cyfarthfa yn Ninbych-y-pysgod 1875
Dechreuodd Band Cyfarthfa cyn i ddiwylliant bandiau pres yr ardaloedd diwydiannol gydio. Dileit un dyn ydoedd oedd yn cyflogi'r perfformwyr.
Roedd Robert Crawshay yn taro dwy hoelen ar yr un pryd; yn denu chwaraewyr mwyaf disglair Llundain gan amlaf drwy gynnig swyddi yn y gweithfeydd ac yn creu'r darlun a ddatblygodd o weithwyr cerddorol.
Mae'n bwysig cofio bod bywyd perfformwyr pres y cyfnod yn ddigon simsan, byddent yn rhan o'r grwpiau teithiol neu gyda'r fyddin a theatrau rhan amser. Roedd cael cynnig swydd yn y gweithfeydd a chartref i deulu yn ddeniadol.
Peth arall gryfhaodd ymroddiad Robert i'w fand oedd ei briodas yn 1846 â Rose Mary Yates. Fel Robert, roedd hi'n hoff o gerddoriaeth ac yn frwd am wella bywydau gweithwyr ei gŵr.
Agorodd lyfrgelloedd iddynt ac fe gafodd syniad o berfformiadau gan y band i ddiddanu eu cydweithwyr.
Byddai'r band yn mynd i Gaerdydd i gynrychioli'r teulu Crawshay yn y sioe flodau arbennig, ac fe'u gwahoddwyd gan Dywysog Cymru i chwarae'n agoriad doc newydd Abertawe yn 1881.
Ond nid band Cymreig neu Gymraeg oedd Cyfarthfa. O'r tu allan y deuai y rhan fwyaf o'u perfformwyr a hefyd y rhan fwya o'r gerddoriaeth a berfformwyd ganddynt.
Mwy cywir fyddai eu disgrifio fel band rhynwgladol a'i gartref yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024