CPD Y Bala 'yn edrych ar doriadau o hyd at 30%'

Mae toriadau yn debygol o gael effaith ar bob agwedd o'r clwb, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Ruth Crump
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Y Bala yn wynebu toriadau ariannol o hyd at 30% wedi'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "12 mis heriol ofnadwy".
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol a Chyfarwyddwr Ariannol y clwb, Ruth Crump, maen nhw'n "edrych ar doriadau ymhob man".
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru, dywedodd fod cau academi'r clwb hefyd wedi cael effaith sylweddol ar gyllid.
Daw ei sylwadau ar ôl i Colin Caton gyhoeddi ei fod wedi gadael ei rôl fel rheolwr y clwb ar ôl 22 mlynedd wrth y llyw.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd18 Mai
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y clwb bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn "heriol ofnadwy" a bod swydd Caton, o ganlyniad, "bron yn amhosib".
"Mae'r heriau yr ydym ni fel clwb bach yn eu hwynebu o fewn Uwch-gynghrair Cymru JD wedi cael eu trafod yn helaeth, ond does dim cymorth na datrysiadau wedi dod i helpu lleddfu'r pryderon hynny.
"Mae'r heriau wedi cael effaith bersonol ar nifer o bobl sy'n ymwneud â'r clwb, ond rydyn ni'n benderfynol o barhau a'n siwrnai ar lefel uchaf pêl-droed yng Nghymru."

Mae gorfod ariannu'r academi ein hunain dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio'n fawr ar y gyllideb, meddai Ms Crump
Dywedodd Ms Crump fod newidiadau i system academi CPD Y Bala wedi effeithio yn fawr ar y gyllideb dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Ma' pawb yn gwybod bod yr academi yn Y Bala wedi gorffen rŵan," meddai.
"Da ni wedi bod yn gorfod ariannu'r academi ers dwy flynedd, ers i Carwyn Edwards - oedd yno ar y pryd - fethu cael trwydded B, ac wedyn 'da ni ddim 'di cael arian.
"Ma'r clwb wedi gorfod rhoi arian i mewn i gadw'r academi fynd am y ddwy flynedd diwethaf, ac mae hynny wedi cael effaith ar gyllid a be 'da ni'n gallu, fel clwb, ei roi i Colin (Caton) at y flwyddyn nesaf.
"Ac wedyn gan bo' ni ddim wedi gallu sicrhau (lle yn) Ewrop yn y flwyddyn ddiwethaf yma... Ma' bob dim yn cael knock on effect."
'Da ni'n edrych ar bopeth'
Ychwanegodd Ms Crump fod toriadau yn debygol o gael effaith ar bob agwedd o'r clwb wrth iddyn nhw geisio mynd i'r afael â'r heriau presennol.
"Da ni'n edrych ar bopeth o fewn y clwb, dim be sy'n cael ei wario ar y tîm (yn unig) - cyfleusterau, trainio, 'da ni'n edrych ar doriadau ymhob man.
"Dwi'n siŵr fod pob busnes yn 'neud yr un peth achos mae costau popeth yn mynd fyny - costau trydan, costau trin y cae.
"Rhaid i ni edrych ar doriadau a pheidio gorwario yn wirion. Mae'n siŵr bo' ni'n edrych ar (doriadau o) 20 i 30%."
Ychwanegodd fod rhai clybiau yn "mynd y ffordd arall i ni ac yn cynnig mwy a mwy i ddenu pobl mewn" ond nad oedd Y Bala yn "fodlon mynd i mewn i'r ras yna".

Fe ymunodd Colin Caton â CPD Y Bala yn ôl yn 2003
Wrth ymateb i ymadawiad diweddar Colin Caton, dywedodd Ms Crump nad oedd hi'n disgwyl y cyhoeddiad.
"Dwi 'di bod mewn sioc dros y dyddiau diwethaf 'ma, o'n i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl - o'n in meddwl bo' Colin yn cario 'mlaen am flwyddyn arall o leiaf.
"Pan ddaeth Colin i mewn yn 2003 o'dd gen i hogyn bach blwydd oed, a dwi ddim yn meddwl bod mab Colin wedi cael ei eni ar y pryd, a rwan mae nhw 'di cael eu dwyn i fyny gyda'i gilydd a 'da ni gyd wedi dod yn ffrindiau.
"Daeth Colin i mewn i helpu Nigel (Aykroyd) i gychwyn a dwi'n cofio rywun yn deutha'i 'o bydde chi'n chwarae yn Ewrop' - a finna'n d'eud 'da chi'n breuddwydio, 'da chi'n bod yn wirion'.
"Ond dros yr 20 mlynedd diwethaf 'da ni wedi bod yn Ewrop naw gwaith, felly mae'r stori o ran be mae o wedi gyflawni yn anhygoel - a dwi inna a Nigel wedi bod efo fo o'r cychwyn.
"Ma' reit drist a dwi wedi bod reit upset am y peth."
Mae CPD Y Bala yn gobeithio penodi rheolwr newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim am wneud sylw.