Gwobr i ganolfan Felindre am lyfr i blant am ganser
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr arbennig am gynhyrchu llyfr newydd i helpu plant i ddelio gyda chanser o fewn y teulu.
Cafodd y llyfr - Gofalu am Fy Nheulu sydd â Chanser - ei ysgrifennu i helpu rhieni sydd â chanser i siarad â'u plant am y salwch a'r triniaethau.
Mae'r llyfr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae'r actor Matthew Rhys hefyd wedi lleisio fersiwn sain.
Fe gafodd y wobr gan Nursing Times ei chyflwyno Michelle Pengelly, nyrs arbenigol yn y ganolfan, a Ceri Harris, rheolwraig cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Dywedodd Michelle Pengelly ei bod eisiau i rieni gael y wybodaeth gywir wrth siarad â'u plant a chwilio am gymorth.
"Mae rhai o'r cwestiynau anodda'n codi mewn sgyrsiau gyda phlant am ganser, ac mae'n gallu bod y peth anodda' i riant ei wneud," meddai.
"Fe all y pryder am ddweud y peth anghywir, ac achosi loes i blant wrth wynebu realiti canser, ei gwneud hi'n anoddach i deuluoedd i siarad amdanyn nhw, gan adael plant - yn anfwriadol - i deimlo'n unig a dryslyd."