Cymraes yn ennill cystadleuaeth The Apprentice
- Cyhoeddwyd
Dynes fusnes o Geredigion sydd wedi ennill cystadleuaeth fusnes y rhaglen deledu The Apprentice.
Mae Alana Spencer, 24 oed, yn rheoli cwmni cacennau. Nawr mae hi wedi ennill buddsoddiad o £250,000 mewn partneriaeth busnes gyda'r Arglwydd Alan Sugar.
Roedd gofyn iddi lansio ei chwmni newydd, Ridiculously Rich, yn nhasg olaf y gystadleuaeth, ac fe wnaeth hi bwysleisio wrth gynnig y syniad ei bod hi am i Gymru fod yn rhan amlwg o'i brand.
Mae hi bellach wedi cadarnhau ei bod wedi dod o hyd i safle newydd yn ne Cymru, er mwyn gallu cynhyrchu mwy o'i chacennau.
'Breuddwyd'
Dywedodd Alana yn yr ysgol oedd ei chamau cyntaf i fyd busnes, wrth iddi werthu siocled gyda'i ffrind cyn y Nadolig.
Roedd hi wedi trio am le ar y Junior Apprentice saith mlynedd yn ôl, ond chafodd hi ddim lle ar y sioe.
"Wnes i ddim rhoi'r gorau i'r freuddwyd," meddai ar ôl iddi ennill.
Mae Alana yn hanu o Lanrhystud ger Aberystwyth, ac fe aeth i'r ysgol yn Aberaeron.
"Roedd hi'n sefyll mas"
Dywedodd Anwen Davies, cyn athrawes Alana yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ar raglen y Post Cyntaf:
"Mae pob un yn prowd. 'Nath hi orffen ei TGAU - a wedodd hi dwi ishe bod yn "proper businesswoman".
"Roedd hi'n gwerthu siocledi i athrawon ac roedd pawb yn edmygu hi.
"Nath hi ddim gorffen ei Lefel A ond 'nath hi gario 'mlaen â'i busnes. Roedd hi'n sefyll mas.
"Rwy'n gobeithio nawr gall ei busnes aros yng Ngheredigion."