Gorchymyn cymunedol a dirwy wedi ymosodiad gêm bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
LLanllyfni
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn y gêm rhwng CPD Llanllyfni a Prestatyn Sports ym mis Awst 2016

Mae golwr a gafwyd yn euog o ymosod ar chwaraewr o dîm arall mewn gêm bêl-droed y llynedd wedi derbyn gorchymyn cymunedol a dirwy.

Fe ymddangosodd Sion Williams, 33 oed o'r Rhyl, o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener, ar ôl ei gael yn euog ddechrau'r mis o gicio Sion Huws o Glwb Pêl-droed Llanllyfni yn ei ben.

Clywodd y llys fod Mr Huws yn gorwedd ar y llawr yn ystod yr ymosodiad gan Williams, oedd yn chwarae i glwb Prestatyn Sports.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod gêm danllyd rhwng CPD Llanllyfni a Prestatyn Sports ym mis Awst.

Cafodd y gêm ei gohirio gan y dyfarnwr Aled Rhys Williams yn dilyn ymladd rhwng chwaraewyr y ddau dîm a rhai o'r cefnogwyr oedd yn bresennol.

Roedd Williams wedi gwadu cicio Mr Huws, sy'n dioddef o epilepsi.

Dywedodd cadeirydd y llys, David Llewelyn Jones fod y dyfarnwr a chwaraewr arall wedi gweld y gic.

Cafodd Williams orchymyn i wneud 100 awr o waith yn ddi-dâl, talu £400 o iawndal a £705 o gostau.