Lluniau: Fy nghynefin i
- Cyhoeddwyd
Ffotograffydd gwadd Cymru Fyw ym mis Chwefror ydy Awen Morris o Lanberis. Dyma i chi rai o'r lluniau y mae hi wedi eu tynnu yn ei milltir sgwâr yn ystod yr wythnosau diwethaf:


Castell Dolbadarn

Yr Wyddfa o Lyn Mymbyr

Un cam ar y tro at droed mynydd Tryfan

Noson braf ar bier Trefor

Yr haul ar fin cilio yn Nant Peris

Machlud haul yn Nhrefor

Llonyddwch Llyn Padarn

Y wawr yn torri dros Ddyffryn Nantlle

Cei Caernarfon

Adlewyrchiad ar y Fenai

O dan y sêr

Olion oes y chwareli

Tryfan. Oer yw'r eira ar Eryri