Atal trwydded safle gwastraff yn dilyn tân ar y safle

  • Cyhoeddwyd
Tan
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y tân ar y safle nos Iau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod wedi atal trwydded i ffatri ailgylchu ble mae tân sylweddol wedi bod yn llosgi ers dydd Iau.

Mae'r safle gwastraff ar stâd ddiwydiannol Llandŵ ym Mro Morgannwg yn parhau i losgi o dan oruchwyliaeth, ar ôl i 2,000 tunnell o wastraff gynnau yr wythnos diwethaf.

Roedd y gwasanaeth tân wedi darogan y byddan nhw ar y safle am gyfnod hir am eu bod angen gwneud yn siŵr bod y tân yn marw, ac mae'r safle'n parhau i fod ar gau.

Dywedodd CNC eu bod bellach wedi gwahardd dod ag unrhyw wastraff yn rhagor i'r safle, sydd dan reolaeth SiteServ Recycling Ltd.

"Er mai ein prif ffocws ar hyn o bryd yw gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Bro Morgannwg i reoli effeithiau'r tân, rydyn ni wedi cymryd y cam brys hwn er mwyn lleihau unrhyw risg pellach o lygredd difrifol," meddai Nadia De Longhi, rheolwr gweithredoedd gyda CNC.