Trafod prynwr newydd i'r Cymro wedi 'diddordeb pendant'

  • Cyhoeddwyd
Y Cymro

Mae perchnogion papur newydd Y Cymro wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw bod diddordeb brwd wedi cael ei ddangos mewn prynu'r papur.

Roedd pryderon fis diwethaf y byddai'r papur yn dod i ben ddiwedd Mehefin eleni pe na bai modd dod o hyd i berchennog newydd.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y perchnogion Tindle Newspapers Ltd bod sawl grŵp, gan gynnwys nifer o fusnesau ac unigolion, wedi datgan diddordeb mewn cymryd rheolaeth o'r unig bapur newydd Cymraeg cenedlaethol.

Mae Tindle Newspapers Ltd yn bwriadu symud ymlaen i gynnal trafodaethau mwy manwl i ddewis y prynwr gorau i sicrhau dyfodol y papur a'r wefan.

'Cyfnod heriol'

Mae'r newyddion yn lleihau pryderon am golli swyddi o ganlyniad i werthiant y cyhoeddiad, gafodd ei sefydlu yn Wrecsam yn 1932.

Cafodd Y Cymro ei brynu gan Ray Tindle, perchennog cwmni Tindle Newspapers, oddi wrth NWN Media yn 2004.

Dywedodd llefarydd ar ran Tindle Newspapers: "Rydan ni'n falch o gyhoeddi bod diddordeb pendant wedi cael ei ddangos gan nifer o fusnesau ac unigolion i gymryd awenau'r Cymro.

"Bydd trafodaethau fwy manwl yn cael eu cynnal yn awr gyda'r rhai, yn ein tyb ni, â'r arbenigedd a'r ymrwymiad i sicrhau dyfodol Y Cymro.

"Mae'n gyfnod gynyddol heriol i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac mae'n hanfodol fod yna blwraliaeth a mynediad i ddarllenwyr Cymraeg at newyddion safon uchel, gwreiddiol, perthnasol i'w bywydau a'r ardaloedd ble maen nhw'n byw."

line

Dadansoddiad gohebydd celfyddydau BBC Cymru, Huw Thomas:

Byddai cynllun busnes sy'n trafod prynu papur newydd sy'n colli arian a darllenwyr yn brawychu unrhyw reolwr banc.

Mae'r ffaith fod y papur yn un Gymraeg - gyda'r potensial ond i gyrraedd nifer penodol o'r boblogaeth - yn ychwanegu at yr her hir dymor i gadw'r fenter i fynd ar unrhyw lefel fasnachol.

Felly bydd rhaid i'r criw llwyddiannus sicrhau bod cynllun cynaliadwy yn bodoli i barhau i argraffu Y Cymro.

Opsiwn arall, llai radicalaidd erbyn hyn, fyddai dod â'r papur printiedig i ben.

Ond efallai bydd cynnal gwasanaeth ar y we yn fwy o her, wrth drio cystadlu gydag adnoddau'r cyhoeddwyr eraill sydd bellach wedi ymsefydlu yn y gofod digidol, megis y BBC a Golwg360.

Byddai ymddiriedolaeth gyda'r ddawn o godi arian gan noddwyr mawr ac unigolion yn gallu sicrhau dyfodol y busnes, ond byddai angen i unigolion ymrwymo i'r achos am flynyddoedd i ddod.