Y Cymro yn dod i ben os na fydd prynwr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Tindle Newspapers wedi cadarnhau ei bod am gael gwared ar Y Cymro - yr unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg - ac felly mae'r papur yn chwilio am berchennog newydd.
Os na fydd modd dod o hyd i berchennog bydd y papur yn dod i ben ddiwedd Mehefin eleni.
Y bwriad, medd cwmni Tindle, yw trosglwyddo Y Cymro am ffi nominal er mwyn sicrhau dyfodol y papur a'r wefan.
Pwysleisiwyd na fydd swyddi yn cael eu colli wrth i'r trosglwyddo ddigwydd.
Cafodd Y Cymro, a sefydlwyd yn Wrecsam, ei gyhoeddi gyntaf yn 1932 gan olynu papurau newydd eraill o'r un enw - papurau oedd yn bodoli yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.
Cafodd Y Cymro ei brynu gan Ray Tindle, perchennog cwmni Tindle Newspapers Cyf, oddi wrth NWN Media Ltd yn 2004.
Mae Tindle wedi bod yn cefnogi Y Cymro yn ariannol ers 13 o flynyddoedd.
'Cyfnod cynyddol heriol'
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Tindle Newspapers ei bod yn cynnig Y Cymro am ffi nominal er mwyn "ceisio sicrhau dyfodol y papur eiconig a'r wefan".
"Y Cymro yw'r unig bapur newydd cenedlaethol yn yr iaith Gymraeg.
"Mae'r papur wedi cael ei gefnogi gan y cwmni am lawer o flynyddoedd ond mae'n gyfnod gynyddol heriol i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru,
"Anogir Llywodraeth Cymru i ystyried ei lefel o gyllido i'r cyfryngau Cymraeg i sicrhau plwraliaeth a mynediad darllenwyr Cymraeg at newyddion safon-uchel, gwreiddiol, perthnasol i'w bywydau a'r ardaloedd ble maen nhw'n byw."
Ychwanegodd y llefarydd: "Gyda chymorth panel o arbenigwyr, sy'n rhannu profiad helaeth a medrusrwydd yn yr iaith Gymraeg a chyhoeddi, mae Tindle yn chwilio am berchennog newydd i symud Y Cymro yn ei flaen."
Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion: "Dyma gyfle i berchennog a golygydd newydd i ddatblygu'r Cymro i'r cyfnod nesaf.
"Gobeithio y bydd rhywun yn cymryd y cyfle ac yn sicrhau parhad y papur pwysig yma a diogelu ei le o fewn newyddiaduraeth Gymraeg."
Gofynnir i bartïon sydd â diddordeb i gysylltu â chwmni Tindle yn Aberystwyth erbyn 7 Ebrill.